Tîm Social Value Cymru


Eleri Lloyd – Rheolwr Gwerth Cymdeithasol
Mae cefndir Eleri yn cynnwys gweithio o fewn cymunedau i annog newid a datblygiad. Mae ganddi brofiad o weithio gydag unigolion, grwpiau cymunedol a busnesau o safbwynt addysg a sgiliau, ac yna symudodd ymlaen i weithio o fewn y trydydd sector i annog datblygiad cymunedol.
Mae Eleri wedi arwain ar waith gwerth cymdeithasol ym Mantell Gwynedd ers 2015 ac wedi rheoli’r prosiect Mesur a Rheoli Gwerth Cymdeithasol Gogledd Cymru rhwng 2017-2020. Mae ganddi brofiad helaeth o weithio gydag amrywiol fudiadau i fesur, adrodd a rheoli eu heffaith.
Mae Eleri yn uwch ymarferydd ac yn hyfforddwr achrededig gyda Social Value International. Mae’n angerddol dros hyrwyddo gwerth cymdeithasol i helpu mudiadau i wella eu hatebolrwydd a’u perfformiad cyffredinol.


Mathew Lewis – Swyddog Mesur Gwerth Cymdeithasol
Mae Mathew wedi bod rhan o’r tîm Social Value Cymru ers Mai 2020, Yn ystod ei amser gyda Social Value Cymru mae Mathew weid gweithio gyda amrywiol o mundiadau yn Cymru a Lloger I’w helpu o ddeall ye effaith gymdeithasol y maent yn ei chreu. Mae Mathew yn hefyd yn Ymarferydd Lefel 1 cyfeillach gyda Social Value International. Mae Mathew yn gyffrous I weld datblygiad parhaus y symudiad gwerth cymdeithasol a sut gall y symudiad greu effaith gadarnhaol yn fydeang.
Gareth James – Swyddog Mesur a Datblygu Gwerth Cymdeithasol
Mae Gareth wedi gweithio yn y Sector Gyhoeddus a’r Trydydd Sector am nifer o flynyddoedd mewn rolau amrywiol. Mae’n teimlo’n angerddol dros weithio mewn partneriaeth gyda phobl a sefydliadau.
Mae’n mwynhau gweithio gydag eraill drwy anawsterau a dathlu llwyddiant. Trwy gydol ei yrfa, mae Gareth wedi cael y fraint o fod yn rhan o sawl gweithgaredd sydd wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl.
Mae yntau hefyd yn ymarferydd cysylltiol gyda Social Value International sy’n rhoi’r cyfle iddo helpu pobl a mudiadau i gydnabod iddyn nhw eu hunain ac i eraill y gwerth maent yn ei gyflawni sy’n cyfoethogi bywydau a’u galluogi i wella wrth iddynt symud ymlaen.