Grant Gwirfoddolwyr Ifanc Gwynedd

Mae Grant Gwirfoddolwyr Ifanc Gwynedd yn cael ei weinyddu gan Mantell Gwynedd ar ran CGGC a Llywodraeth Cymru.
Prif nod y Grant yw cefnogi amrywiaeth o brosiectau a gweithgareddau gwirfoddoli bach sy'n cael eu harwain gan bobl ifanc o fewn sir Gwynedd. Pwrpas y gronfa yw helpu i rymuso pobl ifanc i ddatblygu eu mentrau eu hunain a chymryd rhan weithredol o fewn eu cymunedau. Yn bennaf, y nod yw cefnogi cyfranogiad a chefnogi pobl ifanc i wirfoddoli i gymryd rhan weithredol yn eu cymunedau.
Eleni, mae cyfanswm o £5,240 ar gael yn y gronfa i gefnogi prosiectau bach gwirfoddoli neu sefydlu gweithgaredd gwirfoddoli.
Rhaid i brosiectau ddigwydd o fewn ardal awdurdod lleol Gwynedd ac mae ceisiadau yn cael eu sgorio a’u dyfarnu gan banel o bobl ifanc 14-25 oed.
Lawrlwythwch y ffurflen gais a'r canllaw isod.
Canllawiau Grant Gwirfoddolwyr Ifanc (PDF)
Cwestiynau am Grant Gwirfoddolwyr Ifanc Gwynedd (PDF)
Ffurflen Gais (Word) / Ffurflen Gais (PDF)