Cronfa Ffyniant Gyffredin Gogledd Cymru

Gwybodaeth Cefndir

Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF) yn biler canolog o agenda Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

Sefydlwyd Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU(CFfGDU) nol yn 2022 i feithrin balchder mewn lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU gan fuddsoddi mewn cymunedau a lleoedd, a chefnogi busnesau lleol, a phobl a sgiliau.

Mae’r gronfa yn anelu at gyflawni hyn trwy dair blaenoriaeth fuddsoddi:

  • Cymuned a Lle
  • Cefnogi Busnes Lleol
  • Pobl a Sgiliau (gan gynnwys rhaglen ‘Lluosi’ i wella rhifedd oedolion)

Mae pob awdurdod lleol yn penderfynu sut y maent yn dymuno dewis prosiectau ar gyfer cefnogaeth CFfGDU.  

Bydd ardaloedd lleol yn ystyried y cymysgedd cyffredinol o weithgareddau a gynigir yn ogystal â chynigion unigol, i sicrhau yr eir i’r afael ag anghenion eu hardaloedd ac amcanion blaenoriaethau buddsoddi’r CFfGDU.

Cronfa Ffyniant Gyffredin 2022-25

Yng Nghymru, sefydlwyd rhanbarth Gogledd Cymru oedd yn cynnwys siroedd Conwy, Dinbych, Fflint, Gwynedd, Wrecsam ac Ynys Môn.

Roedd pob penderfyniad ariannu yn cael ei wneud yn lleol ym mhob ardal gyda’r Awdurdodau Lleol yn penderfynu pa brosiectau byddai’n derbyn arian, gyda chyngor gan bartneriaeth o rhanddeiliaid lleol.

Dyrannwyd £126.46 miliwn o'r UKSPF i Ogledd Cymru.

Dyraniad fesul awdurdod lleol

  • Gwynedd - £24,423,747
  • Ynys Môn - £16,081,937
  • Conwy - £24,520,120
  • Dinbych - £25,064,958
  • Fflint - £13,102,933
  • Wrecsam - £22,684,205

Fel rhan o raglen Ffyniant Cyffredin DU, clustnodwyd £24miliwn ar gyfer sir Gwynedd gyda pheth o’r arian wedi ei ymrwymo ar gyfer sefydlu cronfeydd ar gyfer cefnogi prosiectau i’r Sector Wirfoddol.

Clustnodwyd £1.57miliwn i Mantell Gwynedd ar gyfer rhannu ymysg grwpiau gwirfoddol a chymunedol yng Ngwynedd rhwng Tachwedd 2023 a Mawrth 2025

Derbyniwyd 85 o geisiadau ar gyfer y Gronfa a bu 36 prosiect yn llwyddiannus. Isod gweler restr a lleoliad y prosiectau llwyddiannus.

Cwblhawyd Adroddiad Diwedd Prosiect yn nodi manylion pob grŵp derbyniodd Grant gan amlygu pa wahaniaeth roedd wedi ei wneud i’r grŵp/prosiect a’r gymuned. Gweler linc ar gyfer Adroddiad Diwedd Prosiect 2023-25.

Yn ogystal fel rhan o werthusiad o’r Gronfa Sector Wirfoddol Gwynedd cwblhaodd Social Value Cymru werthusiad Ymarfer Adenillon Cymdeithasol ar Fuddsoddiadau(Social Return on Investment) ar 3 prosiect sef:

Cronfa Ffyniant Gyffredin 2025-26
Mae’r estyniad i’r Gronfa Ffyniant Gyffredin ar gyfer 2025/26 yn dal i flaenoriaethu

  • Cymunedau a Lle
  • Cefnogi Busnesau Lleol
  • Pobl a Sgiliau

Dyrannwyd £42.4 miliwn o'r UKSPF i Ogledd Cymru.

Dyraniad fesul awdurdod lleol

  • Gwynedd - £8,192,058
  • Ynys Môn - £5,394,101
  • Conwy - £8,224,382
  • Dinbych - £8,602,674
  • Fflint - £4,394,902
  • Wrecsam - £7,608,591

Clustnodwyd £650,000 i Mantell Gwynedd ar gyfer rhannu ymysg grwpiau gwirfoddol a chymunedol yng Ngwynedd rhwng 2025-2026

Derbyniwyd 56 o geisiadau ar gyfer y Gronfa a bu 24 prosiect yn llwyddiannus.

Isod gweler restr a lleoliad y prosiectau llwyddiannus.

  • map sector grantiau