Partneriaethau
Rhan o waith Mantell Gwynedd yw ymgynghori a rhoi gwybodaeth ar bolisiau sy’n ymwneud â’r Trydydd Sector. Rydym yn hwyluso cynrychiolaeth y sector ar grwpiau cyd-weithio lleol ac yn cynrychioli ar Bartneriaethau Strategol sirol a rhanbarthol.
Partneriaethau Strategol
- Grŵp Cyswllt y Sector Wirfoddol
- Rhwydwaith Iechyd, Gofal a Lles/Rhwydwaith Llesiant y Trydydd Sector
- Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn ar y cyd
- Timau Ardal / Clwstwr
Rhwydweithiau, Fforymau a Grwpiau Eraill
Mae Mantell Gwynedd yn ymwneud â nifer o rwydweithiau, fforymau a grwpiau eraill ar draws y sir hefyd. Croeso i chwi gysylltu am ragor o wybodaeth.
GWAITH PARTNERIAETH YM MAES IECHYD, GOFAL A LLESIANT
TIMAU ARDAL/CLWSTWR
Mae Gogledd Cymru wedi cael ei rhannu yn 14 ‘ardal leol’. Mae ardal leol yn cynnwys rhwng 30,000 a 50,000 o bobl. Cytunwyd mai dyma’r maint delfrydol o boblogaeth er mwyn i wasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a chymunedol gydweithio yn effeithiol i gefnogi trigolion.
Bydd pob ardal leol yn edrych ar sut gall gwasanaethau cymunedol gydweithio i ymateb i anghenion trigolion lleol. Maent yn cael eu harwain gan dîm ardal lleol sy’n cynnwys meddyg teulu lleol, gwasanaethau cymdeithasol a’r sector gwirfoddol ynghyd â chynrychiolaeth o feysydd fel ffisiotherapi, plant ac iechyd meddwl.
Yng Ngwynedd mae yna dair ardal lle mae’r timau yma yn cyfarfod yn eithaf rheolaidd sef Arfon, Dwyfor a Meirionnydd.
Prif rôl yr Hwylusydd Iechyd, Gofal a Llesiant yn y cyfarfodydd yma yw sicrhau persbectif y trydydd sector i’r drafodaeth a’r cynlluniau lleol. Bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno a bydd yn gyfle i rannu gwybodaeth am y datblygiadau diweddaraf yn ardaloedd yma.
Mae’r Hwylusydd Iechyd, Gofal a Llesiant hefyd yn aelod o Grwpiau/Partneriaethau Strategol eraill.
Bydd yr Hwylusydd Iechyd, Gofal a Llesiant hefyd yn cefnogi darnau o waith a chynlluniau eraill yn ôl y galw o fewn yr agenda iechyd, gofal a llesiant.
Os ydych eisiau mwy o wybodaeth am unrhyw agwedd o’r gwaith mae croeso i chi gysylltu efo Sioned Larsen – sioned@mantellgwynedd.com - sioned@mantellgwynedd.com