Be’ ydy gwerth cymdeithasol?

Mae gwerth cymdeithasol yn fodd i ni ddeall gwerth y newid ym mywydau bobl.

Dechreuwch drwy ofyn y cwestiwn yma; sut byddai'r bobl yr ydych yn gweithio’n agos gydag yn egluro'r canlyniadau pwysicaf iddynt yn sgîl eich gweithgareddau? A fyddent yn edrych ar eich perfformiad ariannol? Neu a byddent yn cyfeirio at bethau megis eu bod yn fwy hyderus, neu mewn iechyd gwell, mewn tai mwy addas, wedi lleihau ymddygiad niweidiol, neu lai tebygol i fod angen cymorth gwasanaethau cymdeithasol?

Os ydy'r newidiadau fel yma yn ganlyniad o’ch gwaith, mi rydych yn creu gwerth cymdeithasol! Ond, oes bosib egluro pa mor bwysig ydy’r newidiadau yma i bobl?

Drwy ofyn i bobl beth sydd wedi newid yn eu bywydau, gallwn ddechrau deall canlyniadau ein gweithgareddau- a drwy fesur y rhain yn unig gallwn ddeall os yr ydym wedi cael effaith ar fywydau bobl.

Er enghraifft, os yr ydych yn darparu gwasanaeth i bobl i gael ffyrdd iachach o fyw, a ydych gyda diddordeb yn yr allbynnau sy’n dweud faint o bobl yr ydym wedi gweithio gyda, neu’r deilliannau sy’n dweud faint sydd yn iachach fel canlyniad o’n gweithgareddau? Mae’r ddau yn bwysig wrth gwrs, ond drwy ddeall deilliannau’n unig y gallwn fod yn hyderus bod ein gwaith yn effeithiol. Nid yn unig hynny, ond drwy ddeall sut mae pobl wedi newid fel canlyniad o’ch gwaith, gallwn hefyd roi gwerth ar effaith pwysig i fudiadau megis y Bwrdd Iechyd neu wasanaethau cymdeithasol.

Mae Social Value Cymru yn rhan o’r datblygiad sy’n adnabod ein bod yn medru rhoi gwerth ar y newidiadau hyn, a gallwn weithio gyda chi i’ch helpu i ddeall, cyfathrebu a rheoli gwerth cymdeithasol eich gwaith.

Mae’r trydydd sector / sector gwirfoddol yn creu nifer fawr o werth cymdeithasol, ond yn aml nid ydym y gorau am arddangos hynny – beth am newid hyn a dweud ein stori gyda balchder am sut mae’n gwaith yn creu newidiadau allweddol ym mywydau bobl ac arbedion i fudiadau a fyddai fel arall yn gweld cynnydd yn yr angen am wasanaethau.

Mae newid i’r gyfraith megis y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 neu Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn rhoi cyfle i’r trydydd sector i gael cydnabyddiaeth am y rhan allweddol maent yn ei chwarae yng Nghymru a’r gwerth maent yn ei greu. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth ar sut gall gwerth cymdeithasol datgloi'r potensial o’r ddeddfwriaeth newydd.

Mae Social Value Cymru yn aelod o Social Value UK – mudiad sydd yn arwain ym Mhrydain ar werth cymdeithasol ac Adenillion Cymdeithasol ar Fuddsoddiadau. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth.