Be’ gallwn ei gynnig?

What we can offer


Mae Social Value Cymru yn rhan o Mantell Gwynedd sy’n cefnogi’r Trydydd Sector yng Ngwynedd. Mae Mantell Gwynedd yn un o bartneriaid (Social Value Partner) i Social Value UK. Gallwn ddarparu cymorth i fesur a rheoli gwerth cymdeithasol drwy roi cyngor a gwasanaeth ymgynghoriaeth i fudiadau’r trydydd sector, y sector breifat a chyhoeddus ar draws Gogledd Cymru a thu hwnt.

Mae’r gwasanaeth yn cael ei arwain gan Eleri Lloyd (Rheolwr Gwerth Cymdeithasol) sy’n Ymarferydd Achrededig, Social Value International. Gallwn eich cefnogi ar ddechrau eich siwrnai gwerth cymdeithasol – o’r cyflwyniadau cychwynnol, trwy fesur a rheolaeth hyd at achrediad.

Ein gwasanaethau:

Mae rhanddeiliaid yn bobl neu'n sefydliadau sy'n profi newid o ganlyniad i'n gweithgareddau neu'r rhai sy'n effeithio ar ein gweithgareddau. Egwyddor gyntaf gwerth cymdeithasol yw cynnwys rhanddeiliaid, a heb gynnwys ein rhanddeiliaid sut y gallwn fod yn sicr pa newidiadau y maent wedi’u profi a beth sydd angen ei fesur a’i reoli.

 

Gallwn weithio gyda'ch sefydliadau i'ch helpu i nodi pwy yw eich rhanddeiliaid a phwy y dylid eu cynnwys mewn unrhyw ddadansoddiad. Gallwn ymgysylltu â'ch rhanddeiliaid gan ddefnyddio dulliau casglu data ansoddol a meintiol a rhoi canfyddiadau allweddol i chi mewn Theori Newid. Offeryn yw Theori Newid sy'n cysylltu eich gweithgareddau ag allbynnau a chanlyniadau a brofir gan randdeiliaid. Gall y daith weledol hon eich helpu i ganolbwyntio a chynllunio eich effaith fel sefydliad a bydd yn eich helpu i gyfathrebu â’ch rhanddeiliaid. Hyd yn oed os nad oes angen gwerthusiad llawn o’ch gwaith arnoch, bydd ymgysylltu â’ch rhanddeiliaid a datblygu Theori Newid yn eich helpu i sicrhau eich bod yn mesur y canlyniadau cywir.

Os ydych chi'n ystyried ysgrifennu asesiad gwerth cymdeithasol neu'n bwriadu dechrau adeiladu eich fframwaith mesur eich hun i adrodd ar effaith ac yr hoffech gael rhywfaint o gymorth, rydym yn cynnig gwasanaeth mentora. Gallwn fynd â chi drwy’r broses gam wrth gam i sicrhau eich bod yn gwreiddio’r egwyddorion hyn yn eich sefydliad a’i fod yn dod yn rhan o ddiwylliant y sefydliad i fesur effaith.

Gallwn weithio gyda chi i’ch helpu i fesur a rheoli eich effaith gymdeithasol drwy ddefnyddio egwyddorion gwerth cymdeithasol ac Adenillion Cymdeithasol ar Fuddsoddiadau (SROI).
Mae gennym brofiad o weithio gyda rhanddeiliaid i ddeall beth sydd wedi newid yn eu bywydau, a thrwy wrando yn fanwl gallwn adnabod y canlyniadau pwysig mae eich gwaith yn ei greu i bobl a mudiadau eraill. Gallwn yna roi gwerth ar y newidiadau pwysig yma a darparu asesiad sy’n rhoi rhagolwg neu werthusiad o’r gwerth cymdeithasol sy’n cael ei greu.
Gallwn helpu ar unrhyw ran o’r prosiect: o’r cam dylunio a chynllunio, yn ystod y prosiect, neu ar y diwedd. Byddem yn gweithio gyda chi i ddeall eich anghenion - isod mae rhestr o rai o’r gwasanaethau gallwn eu cynnig:

  • Cynllunio eich mesuriadau deilliannau - mae deall beth i’w fesur yn bwysig iawn i sicrhau eich bod yn medru dweud stori eich gwaith;
  • Mesuriadau sy’n rhoi rhagolwg o werth cymdeithasol - gallwn fesur a rhoi gwerth ar yr effaith gymdeithasol yr ydych yn rhagweld. Mae gwneud hyn yn cryfhau ceisiadau ariannol, a rheoli’r gwerth cymdeithasol sy’n cael ei greu drwy’r prosiect;
  • Gwerthusiad gwerth cymdeithasol – mae mesur y gwerth cymdeithasol sy’n cael ei greu gan brosiect fel mae’n datblygu neu ar ôl iddo orffen yn hanfodol i ddeall cyfraniad llawn eich Gwaith. Gall hyn gryfhau prosiectau dilynol a cheisiadau am gyllid;
  • Gosod y systemau angenrheidiol a phrosesau i fesur a rheoli gwerth cymdeithasol - mae mesur gwerth cymdeithasol yn ystod prosiect yn rhoi cyfle i chi ddysgu beth sy’n gweithio a lle gallwch wneud gwelliannau.
  • Mesuriadau sy’n rhoi rhagolwg o werth cymdeithasol - gallwn fesur a rhoi gwerth ar yr effaith gymdeithasol yr ydych yn rhagweld. Mae gwneud hyn yn cryfhau ceisiadau ariannol, a rheoli y gwerth cymdeithasol sy’n cael ei greu drwy’r prosiect:
  • Gwerthusiad gwerth cymdeithasol - mesur y gwerth cymdeithasol sy’n cael ei greu gan brosiect fel mae’n datblygu.

Tysteb

“Mae’r gwaith o fesur gwerth cymdeithasol a wnaed gan Mantell Gwynedd wedi ein galluogi i fedru dangos nid yn unig ein gwerth ond hefyd yr effaith gymdeithasol mae’r prosiect wedi ei gael ar gyn - filwyr, eu teuluoedd a’r cymunedau maent yn byw ynddynt. O safbwynt ansawdd y gwasanaeth mae wedi ein sicrhau bod y gwaith yr ydym yn ei gyflawni nid yn unig yn cael effaith ar yr elfen ariannol ond mae yn rhoi hyder i’r rhai sy’n ein comisiynu am lwyddiant ein gwasanaeth. Fel mudiad Trydydd Sector, sydd yn ddibynnol ar arian grant, mae mesur gwerth yn y ffordd yma yn hanfodol ar gyfer ein cynaliadwyedd i’r dyfodol ac i ddatblygu gwasanaeth newydd. ‘Roedd y gwasanaeth cwsmer a gafwyd gan Mantell Gwynedd yn gampus a’u dealltwriaeth o’n prosiect o’r cychwyn cyntaf yn wych.”

Geraint Jones, Cyfarwyddwr Partneriaethau a Datblygiadau CAIS Cyf.

I ddarllen adroddiad CAIS, cliciwch yma

Mae gwerth cymdeithasol yn newid y ffordd yr ydym yn ymddwyn fel sefydliadau trwy ein harferion a'n rheolaeth o'r gadwyn gyflenwi. Gallwn eich helpu i ddatblygu polisi a strategaeth gwerth cymdeithasol er mwyn ymateb i anghenion eich rhanddeiliaid a sicrhau eich bod yn cael yr effaith fwyaf posibl trwy bopeth a wnewch. Yn ogystal â'ch helpu i ddatblygu'r strategaethau hyn, gallwn sicrhau bod gennych y teclynnau a'r hyfforddiant cywir i roi'r strategaethau hynny ar waith.

 

Am ragor o wybodaeth A dyddiadau cyrsiau cysylltwch  ni:
01286 672 626
eleri@mantellgwynedd.com
@valuecymru