Rhwydwaith Gwerth Cymdeithasol Gogledd Cymru

Mae nifer cynyddol o sefydliadau gogledd Cymru’n ymwneud â gwerth cymdeithasol a rhai yn ystyried cychwyn ar y daith. Beth bynnag eich sefyllfa…

Mae’r Rhwydwaith yma i’ch cefnogi!

Beth mae’r Rhwydwaith yn gwneud?

Rhoi arweiniad, annog a hyrwyddo gwerth cymdeithasol gan gefnogi aelodau i gyflawni eu potensial o werth cymdeithasol.

Sut mae’n gwneud hyn?- Trwy rannu gwybodaeth, ymarfer da a dysgu.

Beth yw ymarfer da?

  • Gweithredu yn unol ag Egwyddorion Gwerth Cymdeithasol
  • Dangos arweiniad ac atebolrwydd
  • Rhoi anghenion buddiolwyr yn flaenaf
  • Bod yn onest a gwrthrychol.

Beth yw’r Cyd-destun Deddfwriaethol?

  • Deddf Llesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 ac yn arbennig thema Cymru Iachach;
  • Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;
  • Deddf Gwasanaethau Cyhoeddus (Gwerth Cymdeithasol) 2012 o safbwynt gwasanaethau nad sydd wedi cael eu datganoli e.e. yr Heddlu

Pwy yw’r Aelodaau?

Mae’r aelodaeth yn agored i bawb - o’r Byd Academaidd, Awdurdodau Lleol, Cynghorau Gwirfoddol Sirol, y Bwrdd Iechyd, Mentrau Cymdeithasol, Mudiadau Gwirfoddol a’r Sector Breifat.

Be dan ni’n ceisio’i gyflawni?

  • Parchu barn ein gilydd a pheidio trafod ymatebion a barn eraill tu hwnt i’r Rhwydwaith.
  • Cynnig amgylchedd cefnogol i ymarferwyr.
  • Dylanwadu ar yr agenda lleol a chenedlaethol.

Beth sy’n digwydd yn y cyfarfodydd?

  • O leiaf un cyflwyniad ymhob cyfarfod
  • Cyfle i aelodau drafod eu gwaith o safbwynt gwerth cymdeithasol
  • Trafod sialensau neu rhywbeth arall perthnasol
  • Cyfle i rwydweithio gydag aelodau

Pryd a Lle?

  • Bydd y Rhwydwaith yn cyfarfod fel arfer bedair gwaith y flwyddyn bob tri mis ac yn anelu i gydlynu amseroedd gyda chyfarfodydd y Fforwm Gwerth Cymdeithasol.
  • Bydd lleoliad cyfarfodydd yn amrywio ar draws gogledd Cymru. Fel arfer cynhelir y cyfarfodydd ar lein gan ystyried cynnal un cyfarfod y flwyddyn mewn lleoliad i bawb fynychu neu hanner a hanner (Cyfarfod Hybrid).

Cyfarfod nesaf:

Dydd Mercher, 19 Ebrill 2023 am 10.30
Rhaglen 19.04.23

NEU CYSYLLTWCH Â NI AM SGWRS:
elerilloyd@mantellgwynedd.com neu gareth.james@mantellgwynedd.com

Rhwydwaith Gwerth Cymdeithasol Gogledd Cymru

Mae’r rhwydwaith yn parhau i dyfu!