Gwerth Cymdeithasol – Be’ ydy’r pwynt?

Cynhaliwyd cynhadledd Social Value Cymru yng Nghanolfan Fusnes Conwy ar y 9fed o Hydref 2019. Mantell Gwynedd sy’n arwain ar Social Value Cymru, ac mae’n gweithio mewn partneriaeth ag AVOW, FLVC, Medrwn Môn, CVSC a DVSC i gefnogi mudiadau yn y trydydd sector i ymwreiddio gwerth cymdeithasol yn eu mudiadau, a dangos sut gall data ar werth cymdeithasol oleuo eu penderfyniadau. Mae’r prosiect yn gweithio gyda 25 o fudiadau sydd oll yn darparu gwasanaethau yng ngogledd Cymru.

Trefnwyd y digwyddiad hwn mewn partneriaeth â Grŵp Llywio Fforwm Gwerth Cymdeithasol Gogledd Cymru, a sefydlwyd mewn ymateb i Adran 16 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Mae’r ddeddf hon yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol (gyda phartneriaid) i hyrwyddo datblygiad mudiadau dielw i ddarparu gwasanaethau gofal a chymorth a gwasanaethau ataliol.

Mae’r Cod Ymarfer ategol sy’n gysylltiedig â’r ddyletswydd hon yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol, gyda byrddau iechyd yn bartneriaid, sefydlu fforymau rhanbarthol i gefnogi darparwyr sy’n seilio’u gwaith ar werth cymdeithasol, i ddatblygu dealltwriaeth ar y cyd o’r agenda cyffredin ac i ddatblygu arfer da.