Sut i fesur gwerth cymdeithasol
Mae amryw o ddulliau i fesur gwerth cymdeithasol – ac un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol yw fframwaith Adenillion Cymdeithasol ar Fuddsoddiadau. Mae’r dull yma yn ein caniatáu i weithio gyda rhanddeiliaid i ddeall beth sydd wedi newid yn eu bywydau a rhoi gwerth ar y newidiadau yma.
Wedi seilio ar 8 egwyddor, mae Adenillion Cymdeithasol ar Fuddsoddiadau yn ein galluogi i gymharu’r manteision yr ydym yn ei greu i’r gost o’i gynhyrchu. Fodd bynnag, mae’n bwysig nodi nad cynhyrchu rhif yn unig yr ydym – ond yn creu stori o newid gyda thystiolaeth feintiol ac ansoddol.
Beth ydy Adenillion Cymdeithasol ar Fuddsoddiadau SROI?
Dull neu gysyniad newydd ydy Adenillion Cymdeithasol ar Fuddsoddiadau. Mae wedi ei greu drwy edrych ar gyfuniad o ddulliau gwerthuso sydd wedi ei sefydlu yn gadarn ac ar economeg iechyd ac amgylcheddol. Mae’n ymateb i’r:
Deg Cwestiwn Effaith
- Beth yw’r broblem yr ydym yn ceisio ei ddatrys?
- Beth yw’r ateb i’r broblem?
- Pwy sydd yn newid o ganlyniad i’r gweithgaredd?
- Sut maent yn newid?
- Sut mae mesur y newidiadau?
- Faint o newid sydd wedi digwydd?
- I ba raddau mae hyn wedi digwydd fel canlyniad o’n gweithgaredd?
- Pa mor hir mae’n para?
- Beth yw pwysigrwydd cymharol y newidiadau gwahanol?
- Pa newidiadau sydd yn bwysig?
Mae cynnwys rhanddeiliaid yn tanseilio’r broses Adenillion Cymdeithasol ar Fuddsoddiadau. Drwy ofyn i bobl beth sydd wedi newid (neu beth fydd yn newid) yn eu bywydau, gallwn ddeall y deilliannau / canlyniadau positif a negatif o’n gwaith.
Y prif wahaniaeth o ddefnyddio Adenillion Cymdeithasol ar Fuddsoddiadau i gymharu â dulliau eraill ydy ei fod yn ein caniatáu i roi gwerth ariannol ar ganlyniadau ein rhanddeiliaid. Y gwerth ariannol yma sydd yn ein galluogi i gyfathrebu mewn iaith gyffredin drwy gymharu'r manteision sydd wedi ei greu i’r gost o’i gynhyrchu. Golygir felly y gallwn ddangos faint o werth sydd yn cael ei greu am bob £1 wedi ei fuddsoddi- er enghraifft am bob £1 a fuddsoddwyd mewn prosiect, y gwerth cymdeithasol sydd yn cael ei greu ydy £3.50.
Er bod rhifau yn bwysig, nid rhoi pris ar bob dim y mae Adenillion Cymdeithasol ar Fuddsoddiadau, ond deall gwerth yr hyn yr ydym yn ei wneud. Mae canlyniadau megis gwell hyder mewn rhieni, neu iechyd meddwl gwell yn newidiadau gwerthfawr – fodd bynnag heb eu cymharu i’r gost o’i gynhyrchu, rydym yn llai abl i gyfathrebu eu pwysigrwydd, ac rydym yn cyfyngu ein gallu i greu mwy o newidiadau positif ym mywydau pobl.
Gall Adenillion Cymdeithasol ar Fuddsoddiadau eich helpu i wneud ceisiadau ariannol, tendro, denu pobl dda i weithio gyda chi, neu wella effaith cymdeithasol eich gwaith.