Social Value Cymru
Mae Social Value Cymru yn darparu cymorth i fesur gwerth cymdeithasol drwy roi cyngor a gwasanaeth ymgynghoriaeth i fudiadau trydydd sector ar draws Gwynedd a thu hwnt.
Gan ddefnyddio ein harbenigedd a’n profiad gallwn gynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n caniatáu gwerth cymdeithasol i’ch cynorthwyo i wneud rhagor o newidiadau positif i bobl a’r amgylchedd, cryfhau eich llywodraethiad a chynorthwyo gyda cheisiadau ariannol.
Rydym wedi gweithio gyda nifer o fusnesau cymdeithasol ac elusennau yn llwyddiannus er mwyn dangos eu gwerth cymdeithasol, gan gynnwys Barnardo’s, Canolfan Gefnogaeth Trais a Cham-drin Rhywiol (Gogledd Cymru), a Chynnal Gofalwyr. Rydym hefyd yn darparu hyfforddiant ar draws Gogledd Cymru ar gyfer anghenion amrywiol, wedi cydweithio gyda Chynghorau Gwirfoddoli Sirol eraill a chyrff cyhoeddus yng Ngogledd Cymru a thu hwnt
Drwy weithio gyda rhanddeiliaid gallwn ddeall sut mae gweithgareddau yn cael effaith ar fywydau bobl a mudiadau. Gall egwyddorion gwerth cymdeithasol ein galluogi i roi gwerth ar yr effaith yma, a drwy wneud hynny rydym wedi helpu mudiadau i ddeall, cyfathrebu a rheoli gwerth cymdeithasol eu gwaith.
Yn y pen draw, mae hyn yn golygu mai creu newidiadau positif ym mywydau pobl sy’n bwysicaf i ni.