Fforwm Gwerth Cymdeithasol
Mae Rhan 2, Adran 16 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn gosod dyletswydd ar awdurdod lleol yng Nghymru, gyda phartneriaid byrddau iechyd, yn: “sefydlu fforymau rhanbarthol i gefnogi darparwyr sy’n seiliedig ar werth cymdeithasol i ddatblygu dealltwriaeth sydd wedi ei rannu o’r agenda, ac i rannu a datblygu ymarfer da. Bwriad y fforwm yw annog sector gwerth cymdeithasol sy’n ffynnu sydd yn gallu ac yn barod i gyflawni cyfleoedd darparu gwasanaethau.”
I grynhoi mae’r Ddeddf yn dweud bod rhaid i awdurdod lleol hyrwyddo;
a) Datblygiad mentrau cymdeithasol yn ei ardal i ddarparu gofal a chymorth a gwasanaethau ataliol;
b) Datblygiad sefydliadau cydweithredol neu drefniadau cydweithredol yn ei ardal i ddarparu gofal a chymorth a gwasanaethau ataliol;
c) Ymglymiad personau y mae gofal a chymorth neu wasanaethau ataliol i’w darparu ar ei chyfer yn y broses o ddylunio a gweithredu’r ddarpariaeth honno;
d) Argaeledd gofal a chymorth a gwasanaethau ataliol yn ei ardal gan sefydliadau trydydd sector (p’un a yw’r sefydliad yn fentrau cymdeithasol neu’n sefydliadau cydweithredol ai peidio).
Mae Cydweithredfa Gwella Gofal Cymdeithasol a Lles Gogledd Cymru yn cynnwys chwe awdurdod lleol Gogledd Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a phartneriaid eraill. Y nod yw gwella gwasanaethau, wneud y mwyaf o’r adnoddau sydd ar gael, lleihau dyblygiad a sicrhau gwasanaethau mwy cyson ar draws Gogledd Cymru.
Mae’r fforwm gwerth cymdeithasol yn cynnwys pobl o wasanaethau’r sectorau annibynnol a statudol a’r trydydd sector sy’n archwilio ffyrdd o hybu gwerth cymdeithasol mewn gwasanaethau cyhoeddus. Mae Mantell Gwynedd yn eistedd ar y grŵp llywio ar gyfer Gogledd Cymru, a’r bwriad yw datblygu fforymau lleol ymhob Sir.
Ceir diffiniad o werth cymdeithasol o safbwynt y fforwm yma.