“Mae’r gwaith o fesur gwerth cymdeithasol a wnaed gan Mantell Gwynedd wedi ein galluogi i fedru dangos nid yn unig ein gwerth ond hefyd yr effaith gymdeithasol mae’r prosiect wedi ei gael ar gyn - filwyr, eu teuluoedd a’r cymunedau maent yn byw ynddynt. O safbwynt ansawdd y gwasanaeth mae wedi ein sicrhau bod y gwaith yr ydym yn ei gyflawni nid yn unig yn cael effaith ar yr elfen ariannol ond mae yn rhoi hyder i’r rhai sy’n ein comisiynu am lwyddiant ein gwasanaeth. Fel mudiad Trydydd Sector, sydd yn ddibynnol ar arian grant, mae mesur gwerth yn y ffordd yma yn hanfodol ar gyfer ein cynaliadwyedd i’r dyfodol ac i ddatblygu gwasanaeth newydd. ‘Roedd y gwasanaeth cwsmer a gafwyd gan Mantell Gwynedd yn gampus a’u dealltwriaeth o’n prosiect o’r cychwyn cyntaf yn wych.”
Geraint Jones, Cyfarwyddwr Partneriaethau a Datblygiadau CAIS Cyf.