Prescripsiwn Cymdeithasol
Cynllun Presgripsiwn Cymdeithasol – Swyddog Cyswllt Cymunedol Arfon
Mae’r swydd Swyddog Cyswllt Cymunedol yn rhan o brosiect presgripsiwn cymdeithasol ehangach. Mae y cynllun yn cefnogi gweledigaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr sef gwella iechyd y boblogaeth, datblygu gwasanaeth iechyd integredig a darparu gofal rhagorol mewn partneriaeth efo cyrff cyhoeddus eraill gan gynnwys mudiadau’r Trydydd Sector. Mae'r cynllun hefyd yn cyd-fynd â chyfeiriad y Llywodraeth sydd wedi ei osod yn y Ddeddfwriaeth Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
Pwrpas y swydd yw cefnogi unigolion i adnabod eu hanghenion eu hunain ac yna cyfeirio at fudiadau eraill, gwasanaethau neu weithgareddau cymunedol lle bo'n addas a phriodol. Dim creu dibyniaeth ydi nod y cynllun ond grymuso unigolion i ddod o hyd i weithgaredd addas yn eu cymunedau gyda'r nod o wella eu llesiant.
“Gafael llaw i ddechrau a gollwng yn ara’ deg pan fydd angen”.
Mae Presgripsiwn Cymdeithasol yn galluogi Gwasanaethau Gofal Cychwynnol a staff clinigol eraill i gyfeirio unigolyn sydd efo anghenion cymdeithasol, emosiynol neu ymarferol ataf
Bydd y swyddog cyswllt cymunedol yn derbyn cyfeiriadau gan yr uchod trwy gyfeiriadau electronic, e-bost neu alwad ffôn. Mi fydd cardiau yn cael eu rhoi i'r unigolion sydd yn ddigon hyderus i hunan gyfeirio i’r cynllun.
AR OL DERBYN CYFEIRIADAU
- Trefnir i gyfarfod yr unigolyn i drafod eu anghenion.
- Adnabod mudiadau lleol, prosiectau a gweithgareddau yn yr ardal all eu cefnogi a fydd yn diwallu eu anghenion.
- Yna cysylltir gyda mudiad neu’r adnodd perthnasol, drwy ffonio neu gyfeirio.
- Mae’r cynnig o afael llaw yn rhoi hwb i'r unigolyn i gymeryd y cam gyntaf ymlaen (e.e. i fynychu’r cyfarfod gyntaf gyda chefnogaeth, cyflwyno i fudiad newydd, ffonio neu sesiynau wyneb yn wyneb).
- Bydd adborth/adolygiadau yn cymryd lle yn barhaus i fesur effaith y cynllun
Gweithgareddau lleol yn cynnwys
- Rhaglenni iechyd a lles – (e.e. grwpiau cerdded, grwpiau myfyrio)
- Cyngor am waith a gwirfoddoli - (prosiectau cyflogaeth cefnogol lleol)
- Cyfleoedd dysgu a chymdeithasol – (dosbarthiadau celf, grwpiau garddio, grwpiau cymdeithasol)
- Cefnogaeth ymarferol – (cyngor am ddyled, budd-daliadau, tai a rheoli arian)
- Grwpiau cefnogaeth (grwpiau cleifion, rhieni a gofalwyr)
Nod y cynllun ydi:
- Grymuso'r unigolion i ail-gysylltu gyda’i cymunedau lleol
- Codi hyder
- Gwella iechyd a lles
- Gwella ansawdd bywyd
- Lleihau apwyntiadau meddygol
- Lleihau unigedd
- Cynorthwyo pobl i gymryd rheolaeth yn ôl am eu bywydau
- Bydd y broses o werthuso’r brosiect yn cael ei gynnal drwy ddefnyddio’r model SROI (Ymgynghoriad Cyfrifon Cymdeithasol). Mae’r model yma yn pwysleisio ar arddangos gwir effaith personol a chymdeithasol ac effaith y prosiect ar fywydau pobl.
Am fwy o wybodaeth
Cyswlltwch a -
Rhian Griffiths
Swyddog Cyswllt Cymunedol
Cynllun Presgripsiwn
Mantell Gwynedd
23 – 25 Y Bont Bridd, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1AB
Rhif ffôn – 01286 672626
E-bost – linc@mantellgwynedd.com