Gwerth Cymdeithasol – fframwaith sy’n seiliedig ar egwyddorion i uchafu effaith

Social Value

Nid ydyw Gwerth Cymdeithasol yn newydd, ond mewn cymhariaeth â chyfrifo ariannol, mae cyfrifo cymdeithasol yn beth newydd iawn o’i gymharu â’r byd ariannol sydd wedi’i sefydlu ers cenedlaethau lawer. Rydym oll angen cyflwyno ein cyfrifon ariannol bob blwyddyn a byddwn yn cadw golwg barcud ar ein hincwm a gwariant a chymharu rhain gyda’n cyllidebau misol. Byddai aros am 12 mis i fesur ein perfformiad economaidd yn cael ei ystyried yn ormod o risg o lawer o fewn sefydliadau. Eto, pan ein bod yn ystyried newid ym mywydau pobl, rydym yn aml yn anghofio am hyn nes ei bod yn amser i lunio cais arall am grant neu bod angen gwybodaeth ar gyfer ein hadroddiad blynyddol gan gymryd y risg o beidio medru uchafu ein heffaith.

Mae Social Value Cymru yn Bartner Gwerth Cymdeithasol gyda Social Value UK ac rydym yn rhannu eu gweledigaeth o ‘Newid y ffordd mae’r byd yn cyfrifo gwerth’. Yn debyg i gyfrifo ariannol, mae gwerth cymdeithasol wedi’i seilio ar fframwaith o egwyddorion,( a framework of principles ) ac mae’r egwyddorion yma yn rhai y dylem ni i gyd gadw atynt pan yn gwneud penderfyniadau sy’n helpu i leihau anghydraddoldeb, lleihau niwed amgylcheddol a gwella llesiant pobl.

Mae Social Value Cymru wedi’i leoli o fewn Mantell Gwynedd, ac fel Cyngor Gwirfoddol Sirol, cwestiwn sy’n cael ei ofyn i ni ydyw – ‘wel, rydym yn gweithio yn y sector wirfoddol ac felly mae pob peth a wnawn yn creu gwerth cymdeithasol, felly pam bod angen i mi fuddsoddi amser ac adnoddau i fesur effaith?’ Mae’n eithaf posibl bod hyn yn wir, ond sut rydym yn gwybod? Ydyn ni wedi gofyn i’r bobl rydym yn gweithio gyda nhw pa wahaniaeth rydym wedi’i wneud i’w bywydau? A allwn ni ddangos y gwahaniaeth yr ydym wedi’i wneud i randdeiliaid allanol a mewnol? Ydi’r wybodaeth gennym i fedru ein helpu i gynllunio a gwneud penderfyniadau yn seiliedig ar yr hyn sy’n bwysig i’r bobl rydym yn gweithio gyda nhw? Mae buddsoddi amser ac adnoddau i fesur a rheoli gwerth cymdeithasol nid yn unig yn helpu i gadarnhau ein bod wir yn creu newidiadau positif ym mywydau pobl, ond bydd hefyd yn helpu ni i ddangos a chyfleu’r newidiadau hyn i randdeiliaid ac yn bwysicaf bydd yn ein helpu i uchafu ein heffaith ar fywydau pobl a sicrhau ein bod yn atebol am yr holl newidiadau ym mywydau pobl sy’n ganlyniad i’n gweithgareddau ni. Yng Nghymru, mae hefyd yn dangos sut rydym yn cyfrannu tuag at ein nodau llesiant (https://www.futuregenerations.wales/cy/about-us/future-generations-act/)

Mae Social Value Cymru yn darparu cefnogaeth, cyngor a gwasanaethau ymgynghorol mewn gwerth
cymdeithasol i fudiadau trydydd sector. Gallwn ddefnyddio ein harbenigedd a’n profiad i gynnig amrediad o wasanaethau sy’n caniatau i wybodaeth gwerth cymdeithasol eich helpu i wneud newidiadau hyd yn oed yn fwy positif i bobl a’r amgylchedd, cryfhau eich llywodraethiant a hwyluso ceisiadau ariannol.

Rydym wedi gweithio’n llwyddiannus gydag amrywiol fusnesau ac elusennau i ddangos gwerth cymdeithaol, gan gynnwys Barnado’s, Stepping Stones, Y Bartneriaeth Awyr Agored, GISDA a CAIS. Rydym hefyd yn darparu hyfforddiant ar gyfer amrywiol anghenion, wedi gweithio’n agos gyda Chynghorau Gwirfoddol Sirol eraill a chyrff cyhoeddus ar draws gogledd Cymru a thu hwnt.
Rydym yn gwybod drwy weithio gyda rhanddeiliaid rydym yn medru deall sut mae gweithgareddau yn creu effaith ar fywydau pobl a sefydliadau.
Mae cymwyso Egwyddorion Gwerth Cymdeithasol yn golygu y gallwn roi gwerth ar yr effeithiau yma, a thrwy wneud hynny rydym wedi helpu mudiadau i ddeall yn well, cyfathrebu a rheoli gwerth cymdeithasol eu gwaith.

Cyswllt Social Value Cymru eleri@mantellgwynedd.com



Yn ôl i'r dudalen blog.