Pam ein bod yn casglu data?

Social ValuePam ein bod yn casglu data?
Ar gyfer bodloni ein harianwyr?
Ar gyfer rhoi tic yn y blwch ar restr o bethau i’w gwneud?

Neu a’i ar gyfer gwneud penderfyniadau gwell ar gyfer y bobl sydd bwysicaf i’n mudiadau?

Dechreuodd ein siwrne gyda gwerth cymdeithasol yn 2014, wrth adnabod ein bod eisiau dangos y newidiadau roedd ein prosiectau yn ei greu ym mywydau pobl, ac nid mesur y rhifau yn unig. Fel corff ambarél ar gyfer y sector wirfoddol yng Ngwynedd, Gogledd Cymru, ‘roeddem hefyd yn ymwybodol o bwysigrwydd y dysgu yma ar gyfer y sector gyfan.

Mewn partneriaeth gyda’r chwe Chyngor Gwirfoddol Sirol yng Ngogledd Cymru, ac wedi ei ariannu gan Gronfa’r Loteri Fawr, rydym yn gweithio gyda mudiadau trydydd sector gyda’r bwriad i:

  • Cefnogi mudiadau i fesur eu heffaith ym mywydau pobl gan alluogi staff ac aelodau’r bwrdd i wneud penderfyniadau yn seiliedig ar ddata gwerthfawr:
  • Dangos sut mae prosiectau a gwasanaethau yn cyfrannu i amcanion a deddfwriaeth genedlaethol sydd yn edrych ar lesiant poblogaeth Cymru

Yng Nghymru, y ddeddfwriaeth berthnasol yw: Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a hefyd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae’r ddeddfwriaeth newydd yn rhoi dyletswydd statudol i ni weithio’n wahanol, gydag unigolion a’r cymunedau yng nghanol y broses gwneud penderfyniadau. Mae 7 nod llesiant i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 sydd yn ddelwedd wedi ei rannu gan bobl Cymru am wlad maent angen ei greu a byw ynddo.

Rhain yw:

  • Cymru lewyrchus
  • Cymru gydnerth
  • Cymru iachach
  • Cymru sy’n fwy cyfartal
  • Cymru a chymunedau mwy cydlynol
  • Cymru a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu
  • Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Mae’r mudiadau sy’n rhan o’r prosiect yn cynrychioli gwahanol grwpiau targed a nodwyd yn asesiad o Anghenion Poblogaeth fel rhan o’r Ddeddf Gwasanaethau Cyhoeddus a Chymdeithasol (Cymru) 2014. Mae rhain yn cynnwys mudiadau’n gweithio gyda chyn-filwyr, dioddefwyr trais yn y cartref, plant a phobl ifanc, oedolion gydag anableddau ffisegol a dysgu, gofalwyr, pobl yn byw gyda phryderon iechyd meddwl ac eraill. Mae rhestr o’r mudiadau sy’n cymryd rhan yn y prosiect ar ein safle - cliciwch yma. Maent yn cynnwys elusennau bychain a chenedlaethol sy’n gweithio o fewn a thu hwnt i Gymru.

Yn ystod ein cyfarfodydd cychwynnol gyda’r mudiadau yma, gofynnwyd pam eu bod eisiau bod yn rhan o’r prosiect. Roeddem eisiau sicrhau nad oedd eu ffocws yn unig ar ddibenion allanol, sef cael mwy o gyllid allanol. Fodd bynnag, daeth i’r amlwg ei fod yn bwysig i’r mudiadau yma dangos eu heffaith ar fywydau eu cleientiaid, aelodau o’r teulu, staff a gwirfoddolwyr. Mae ffocws ein gwaith ar atebolrwydd mewnol a gwella bywydau pobl drwy ddarparu’r adnoddau angenrheidiol i ymddiriedolwyr er mwyn cael data ystyrlon er mwyn gwneud penderfyniadau.

Fe fyddwn hefyd yn dangos sut mae mudiadau yn / neu sut fyddai modd iddynt gyfrannu tuag at anghenion a nodwyd yn yr asesiad Anghenion Poblogaeth o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (2014) a hefyd y saith nod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Asesiad sef yr Anghenion Poblogaeth . Drwy gynnwys y comisiynwyr ac eraill sydd yn gwneud penderfyniadau yn y broses yma, y gobaith yw y bydd modd i ni gyd-gynhyrchu fframwaith ar sut i gyflwyno’r dystiolaeth yma ar gyfer y dyfodol.

‘Rydym ar ddechrau ein siwrne, ac ‘rydym yn frwdfrydig am fesur effaith a grëir gan y mudiadau gwahanol, ac yna sicrhau ein bod yn gallu darparu fframwaith er mwyn rheoli’r data yma i wneud penderfyniadau gwell a fydd yn y pen draw yn gwella llesiant pobl.

Os oes gennych ddiddordeb mewn dilyn Mantell Gwynedd ar eu taith gwerth cymdeithasol, yna cysylltwch â Eleri Lloyd (Rheolwr Gwerth Cymdeithasol) ar 01286 672 626 neu drwy ebost: eleri@mantellgwynedd.com

Yn ôl i'r dudalen blog.