Eleri Lloyd ‘Ar lwyddo I fod yn Ymarferydd Achrededig’
Blog - David Thomas, Social Value UK
Nid yn unig yw Eleri Lloyd wedi llwyddo i fod yn ‘Ymarferydd Achrededig’ ond hefyd bu iddi dderbyn ei Hadroddiad Aswiriedig heb orfod ailgyflwyno unrhyw elfennau o’r gwaith. Mae hyn yn dro cyntaf i Rwydwaith Social Value International, felly llongyfarchiadau mawr i ti Eleri!
Bu i ni siarad gydag Eleri am ei llwybr ‘Ymarferydd Achrededig’ a hefyd gofynnwyd am ychydig o gyngor wrth ddarparu’ch adroddiadau aswiriedig.
Pam eich bod wedi gwneud cais fel Ymarferydd Achredig?
‘Rwyf yn gweithio fel Rheolwr Gwerth Cymdeithasol i Fantell Gwynedd,sef y Cyngor Gwirfoddoli Sirol lleol. ‘Roedd y mudiad yn gefnogol iawn i mi gymhwyso fel ymarferydd achrededig. ‘Roeddwn angen astudiaeth achos da i’w ddefnyddio ar gyfer y cais yma. Mae ‘Change Step’ yn brosiect sydd yn cael ei redeg gan CAIS, sef menter cymdeithasol sy’n cynnig cefnogaeth mentora ar gyfer cyn filwyr yng Nghymru sef partneriaeth rhwng CAIS, y Bwrdd Iechyd Cymru a chyn-filwyr. Mae’r prosiect yn galluogi mentoriaid i gyd - weithio gyda Therapydd ar draws 5 Bwrdd Iechyd. Yn ogystal â chynnig therapi ‘roedd y mentor cyfoed yn gallu eu cefnogi o ran eu hanghenion cymdeithasol a chefnogaeth ymarferol gan ddefnyddio dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.
Er fy mod wedi gweithio gyda nifer o fudiadau i fesur a rheoli eu heffaith, cynnal hyfforddiant gwerth cymdeithasol a chydlynnu rhwydwaith Gwerth Cymdeithasol Gogledd Cymru, ar lefel personol ‘roeddwn angen anogaeth i sicrhau fy mod i’n gwreiddio egwyddorion gwerth cymdeithasol ar draws fy ngwaith. Hefyd, ‘roeddwn o’r farn fod statws Ymarferydd Achredig yn rhoi hygrededd a hyder i’r cleient o’r canlyniadau o fewn adroddiad, ac fel busnes mae hyn yn amhrisiadwy.
Pa sialens fu chi ei wynebu yn ystod y broses o ddod yn Ymarferydd Achredig/pan yn ysgrifennu’r adroddiad?
‘Roedd yr adroddiad yn werthusiad o’r bartneriaeth rhwng y sector wirfoddol a gwasanaeth statudol oedd yn gweithio ar draws pump bwrdd iechyd yng Nghymru. ‘Roedd angen i mi ymgysylltu â digon o wirfoddolwyr o bob ardal a chasglu digon o engreifftiau o’r prosiect o bob nodwedd er mwyn bod yn hyderus o’r canlyniadau. ‘Roedd hyn yn sialens gan fod angen i mi gael caniatad gan y byrddau iechyd cyn ymgysylltu â chleientiaid, yn ogystal a dod i ddealltwriaeth am y gwahaniaethau o ran angen a her daearyddol.
Beth oedd y peth mwyaf buddiol o’ch profiad?
‘Roedd yr holl broses yn fuddiol, Gyda rhai adrannau, ‘roedd yn rhoi’r hyder i mi mod i’n gwneud pethau’n iawn , ond hefyd ‘roedd gweithio i gwrdd â chriteria aswiriant yn rhoi gwell ffocws a dealltwriaeth i mi.
‘Roedd y gefnogaeth a chyfathrebu gydag’r Rheolwr Aswiriant a’r asesydd yn hynod o fuddiol gan eu bod mor gefnogol a chadarnhaol – ‘roeddynt yn amlwg wedi deall yr adroddiad.
Chi di’r person cyntaf i dderbyn Adroddioad Aswiriedig heb unrhyw newid, oes modd i chi roi 3 awgrym o sut i wneud hyn?
- Os yr ydym yn ymgysylltu gyda digon o rhanddeiliaid yna bydd popeth arall yn disgyn i’w lle. Bu i mi ymgysylltu â sampl ddigonol o gyn-filwyr, aelodau teulu ac aelodau o’r proffesiwn iechyd nes yr oeddwn yn glir am beth oedd wedi newid, a hefyd os oedd unrhyw newid neu ddeilliant anfwriadol. Er mwyn i hyn gael ei gwblhau’n effeithiol – mae angen i ni werthfawrogi nad yw pawb yr un fath ac mae yn bwysig rhoi amser a gofod i bawb allu dweud eu stori mewn ffordd cyfforddus. Os yw gwasanaeth wedi helpu ai peidio, mae pob unigolyn yn falch o gael dweud eu stori ac i gael eu cynnwys mewn gwneud penderfyniadau.
- Gwiriwch, gwiriwch a gwiriwch yr adroddiad – gan barhau i edrych ar y criteria rhag ofn eich bod wedi anghofio rhywbeth, yn enwedig unrhyw ragdybiaethau y gwnaethoch ac arbed gor-hawlio.
- Peidiwch a gor-cymhlethu eich data rhandeiliaid. Ar gyfer yr adolygiad yma, rwyf yn ystyried oed, amser yn y fyddin, ardal daearyddol ac os oedd ganddynt gefnogaeth teulu. Wrth adolygu’r data, yr unig ffactorau ’roeddwn yn eu hystyried oedd cyn-filwyr gyda chefnogaeth teulu a chyn-filwyr heb gefnogaeth teulu. ‘Roedd hyn yn rhoi mewnwelediad i rai o’r gwahaniaethau o ran deilliannau., faint o newid a chyfradd priodolau. Wrth symud ymlaen, gall y mudiad reoli’r data ymhellach gan edrych ar nodweddion eraill a bydd hyn yn fwy gwerthfawr iddynt na cymhlethu’r adroddiad.
Karen Carrick - Asesydd Adroddiad Eleri Lloyd – Dywedodd ‘ Roedd yn bleser asesu adroddiad Eleri. Er fod pob adroddiad yn unigryw ac nid oes steil arbennig ar gyfer bob un, ‘roedd yr adroddiad yma wedi ei gyflwyno’n glir ac yn hawdd i’w ddeall. ‘Roedd Eleri wedi deall egwyddorion gwerth cymdeithasol ac ‘roeddynt wedi eu gwreiddio drwy’r dadansoddiad. Dim ots faint o adroddiadau’r ydych wedi eu hysgrifennu, mae bob tro yn ddefnyddiol i gael adborth gan ffrind beirniadol a gallwn cynnig sicrwydd bod yr adroddiad wedi ei adolygu gan gyfoedion o fewn y rhwydwaith.
Catherine Manning – Rheolwr AswiriedigYswiriant gyda Social Value International ‘Rydym wrth ein bodd croesawu Eleri i’r gymuned Ymarferwr Achredig Social Value International. Mae Eleri wedi dangos deallusrwydd dwfn o’r Egwyddorion Gwerth Cymdeithasol a’r dull gweithredu gan ddefnyddio’r egwyddorion ar gyfer cyfrifo gwerth ar draws ei hymarferiad Adenillion Cymdeithasol ar Fuddsoddiadau. ‘Rydym ni, yn y rhwydwaith Social Value International, yn anelu i ddatblygu safonau o’r lefel uchaf byd eang ar gyfer ein hymarferiad rheoli effaith a chyfrifo gwerth cymdeithasol. Gan roi’r ffocws ar wreiddio’r egwyddorion drwy gydol yr ymarferiad o gyfrifo gwerth, gall hyn sicrhau i gwrdd â chriteria Ymarferydd Achredig. Ar gyfer pawb sydd yn rhan o’r broses aswiriedig, mae yn cynnig profiad dysgu fel mae’r ymarfer yn parhau i ddatblygu drwy’r rhwydwaith rhyngwladol. Edrychwn ymlaen at gyfraniad barhaol Eleri i’r rhwydwaith a’r gymuned o ymarferwyr.
Yn ôl i'r dudalen blog.