Mantell Gwynedd wedi derbyn Lefel Un o’r Tystysgrif Gwerth Cymdeithasol!
Blog - David Thomas, Social Value UK
Blog Cwestiynau ac atebion David Thomas o Social Value UK gyda Mantell Gwynedd.
‘Rydym yn falch iawn o gyhoeddi fod Mantell Gwynedd wedi derbyn Lefel Un o’r Tystysgrif Gwerth Cymdeithasol!
Gofynnais ychydig o gwestiynau iddynt am eu siwrna Tystysgrif Gwerth Cymdeithasol hyd hyn.
Pam eich bod wedi dewis llwybr Tystysgrif Gwerth Cymdeithasol ar gyfer mudiadau?
Mantell Gwynedd yw’r Cyngor Gwirfoddoli Sirol yng Ngogledd Cymru ac am nifer o flynyddoedd ’rydym wedi bod yn gwreiddio gwerth cymdeithasol drwy ein gwaith. Sefydlwyd Social Value Cymru yn 2014. Bwriad Social Value Cymru yw cefnogi mudiadau yn y sector i fesur a rheoli eu gwerth cymdeithasol drwy gynnig hyfforddiant, cyngor a hefyd gwasanaeth ymgynghori. Fel mudiad ambarél,y farn oedd mai Mantell Gwynedd oedd y corff gorau i gefnogi ac annog Y Trydydd Sector I fod yn fwy atebol am eu heffaith cymdeithasol.
Hefyd, fel corff ambarél, ‘roedd yn bwysig ein bod ni’n arwain fel esiampl gan ddangos ein hymroddiad i wreiddio gwerth cymdeithasol drwy ein gwaith.
‘Rydym yn cydnabod y pwysigrwydd o fesur a rheoli gwerth cymdeithasol, ac ‘rydym hefyd yn cydnabod fod monitro effaith yn hanfodol er mwyn sicrhau ein bod ni’n ymateb i anghenion ein rhandeiliaid ac ar gyfer cynllunio ar gyfer y dyfodol.
Mae y tystysgrif wedi ein galluogi i osod meincnod ar ein sefyllfa bresennol ac hefyd adnabod beth sydd angen ei wneud er mwyn gwreiddio egwyddorion gwerth cymdeithasol yn ein gwaith ar gyfer y dyfodol.
Sut ydych wedi ffurfioli eich hymrwymiad ar gyfer Lefel 1 – Ymroddiad o’r Tystysgrif Gwerth Cymdeithasol? Pa ymarferion a phrosesau ’rydych wedi eu rhoi mewn lle?
‘Rydym wedi ffurfioli cynllun ymgynghori â rhandeiliaid ac fe fyddwn yn adolygu’n rhaglenni’n rheolaidd. Mae gennym gynllun gweithredu mewn lle er mwyn gwella’r mesur gwerth cymdeithasol er budd ein rhandeiliaid. ‘Rydym wedi adolygu’n arolygon ar gyfer cleientiaid er mwyn cofnodi deilliannau ac addasu ein system CRM er mwyn dangos hyn h. y. beth mae unigolion eisiau cyflawni pan maent yn rhyngweithio a ni yn y dyddiau cynnar, fel bod modd i ni fapio ein cefnogaeth.
Oes gennych unrhyw brosiect arall sydd yn mapio gwerth cymdeithasol / Adenillion ar fuddsoddiadau cymdeithasol?
- Prosiect Mesur a Rheoli Gwerth Cymdeithasol Gogledd Cymru – Mantell Gwynedd yw’r corff ambarél sydd yn cyd-weithio gyda’r cynghorau gwirfoddol sirol ar draws Gogledd Cymru ac yn cefnogi 27 mudiad yn y Trydydd Sector gyda’r bwriad o wella y broses o wneud penderfyniadau. Cliciwch Yma.
- Swyddog Cyswllt Cymunedol Arfon – Mae’r Swyddog wedi ei lleoli ym Mantell Gwynedd ac yn gweithio’n agos gyda ac yn derbyn cyfeiriadau gan meddygfeydd gan ddefnyddio’r model presgripsiwn cymdeithasol er mwyn cyfeirio fobl at gefnogaeth a gweithgareddau fydd yn creu newidiadau positif y neu bywydau a gan leihau yr angen ar wasanaethau statudol. Cliciwch Yma.
Beth ydych chi wedi ei ddysgu hyd hyn am eich hymroddiad Lefel Un o’r Tystysgrif Gwerth Cymdeithasol?
Oes unrhyw beth yr ydych yn credu fydd yn ddefnyddiol ar gyfer eich camau nesaf tuag at Lefel 2 o’r Dystysgrif Gwerth Cymdeithasol?
Er fod gennym adran Gwerth Cymdeithasol ac yn gweithio’n barhaus gyda mudiadau er mwyn gwreiddio gwerth cymdeithasol, mae mynd drwy’r criteria ac adolygu’r holl adrannau wedi bod o gymorth i ni cael trefn ar ein mudiad ni.
Y cam nesaf fydd sicrhau ein bod ni’n gallu dal ein heffaith mewn dull dealladwy a hylaw er mwyn symud ymlaen.
Dywedodd Bethan Williams, Prif Swyddog Mantell Gwynedd:
‘Rydym wrth ein bodd mai ni yw’r corff ambarél cyntaf yn y Deyrnas Unedig ac efallai yn y byd i dderbyn Tystysgrif Gwerth Cymdeithasol. Rydym yn anelu i sicrhau ein bod ni’n parhau i ddangos ein heffaith a gwneud penderfyniadau tuag at y lefel nesaf.’
Am fwy o fanylion am siwrne gwerth cymdeithasol Mantell Gwynedd, cysylltwch ag:
Elaine Thomas
Swyddog Datblygu Gwerth Cymdeithasol
elaine.thomas@mantellgwynedd.com
01286 672 626
Am fwy o fanylion am Dystysgrif Gwerth Cymdeithasol
Yn ôl i'r dudalen blog.