Cynnwys ein rhanddeiliaid - ydy hyn yn bosib bob tro?

Cynnwys ein rhanddeiliaid - ydy hyn yn bosib bob tro?Blog Eleri Lloyd - 25/02/2019

Cynnwys rhanddeiliaid yw hanfod gwerth cymdeithasol, ond ydy hyn yn bosib bob tro? Rydym yn cydlynu prosiect yng Ngogledd Cymru sydd yn cefnogi mudiadau gwirfoddol i ymgorffori mesuriadau gwerth cymdeithasol o fewn eu mudiadiadau. Y bwriad yw gwella sgiliau ymddiriedolwyr i ddefnyddio’r wybodaeth yma er mwyn macsimeiddio’r effaith cymdeithasol. Mae 27 o fudiadau yn cynrychioli grwpiau gydag anghenion cymorth eang o fewn ein cymunedau gan gynnwys dioddefwyr cam-drin domestig a thrais rhywiol, cyn-filwyr, oedolion gydag anghenion dysgu, plant a phobl ifanc, yr henoed, pobl yn byw gyda salwch er enghraifft dementia a chancr; pobl gyda nam synhwyrol, pobl yn byw gyda phryderon iechyd meddwl a hefyd unigolion sydd wedi bod yn ddi-waith hirdymor.

Efallai ein bod yn cynorthwyo’r mudiadau i wreiddio’r egwyddorion ac ateb y Deg Cwestiwn Effaith, ond rydym ninnau hefyd yn dysgu drwy eu harbenigedd hwy ar sut i ymgysylltu’n effeithiol gyda rhai o’r unigolion mwyaf bregus yn ein cymdeithas. Fel prosiect, ‘rydym yn angerddol am sicrhau fod unigolion yng nghanol y broses o wneud penderfyniadau, ond celwydd byddai dweud nad oedd gennym unrhyw bryderon am wneud hyn yn effeithiol mewn rhai sefyllfaoedd.

Dros y misoedd diwethaf ‘rydym wedi gweithio gyda nifer o fudiadau ac wedi ymgysylltu’n llwyddiannus gydag unigolion er mwyn deall y deilliannau gan y rhai sydd yn gwybod orau. Cynhaliwyd un grŵp ffocws gyda Deafblind Cymru gyda chefnogaeth gan wirfoddolwyr arbennig er mwyn hwyluso’r broses a chyfathrebu gan defnyddio iaith arwyddion. Yn BAWSO, sydd yn cefnogi dioddefwyr cam-drin domestig, ‘roedd gweithwyr cefnogol yn cynnig cyfieithiad Phortiwgaleg a Phwylaidd. Yn y ddau ddigwyddiad, ‘roedd eu cefnogaeth yn sicrhau fod y sgwrs yr un mor rhwydd ac unrhyw grŵp ffocws arall rydym wedi ei gynnal. Yng Ngardd Waliog Fictoriaidd Erlas yn Wrecsam, maent yn cynnig gweithgareddau dydd ar gyfer oedolion gydag amrywiaeth o anghenion dysgu. Roeddem wedi’n trawo a’n hysbrydoli gan un o’r gwirfoddolwr yno a oedd yn cynnig mewnwelediad i sut oedd bywydau rhai o’r unigolion wedi newid. Roedd ganddi’r ddawn i droi proses a all fod reit ddiflas i ddigwyddiad pleserus yn llawn amlygiadau.

Mae cyfrinachedd a sensitifrwydd yn hanfodol yn enwedig pan y gweithio gyda rhai mudiadau, megis rhai sydd yn cefnogi dioddefwyr o drais ac felly roedd yn bwysig cymryd gofal arbennig er mwyn cynllunio’r digwyddiadau ymgysylltu yma. O fewn un mudiad, roeddem wedi trefnu galwadau ffôn o’r swyddfa - gyda swyddogion yn trosglwyddo galwadau er mwyn sicrhau yw dnad oedd unrhdata personol yn cael ei rannu gyda ni. Roedd hyn yn caniatáu bod y cleient yn gyfforddus i rannu eu stori am beth oedd wedi newid yn eu bywydau a hefyd beth all fod yn well er mwyn cynyddu'r effaith.

Wrth feddwl am ddywediad, ‘O enau plant bychain’, gwir iawn yw hyn yn ein profiad ni o weithio gyda mudiadau sydd yn arbenigo yn y maes plant a phobl ifanc. Maent wedi bod yn agored iawn am eu profiadau ac yn barod i rannu eu syniadau ar beth sydd yn bwysig iddynt ond hefyd beth oedd heb weithio iddynt. Dynamic yw elusen arall sydd yn rhan o’r prosiect, ac mae’r mudiad yn gweithio gyda phlant gydag amryw o anableddau gan gynnwys: ffisegol, dealltwriaeth, namau ar y synhwyrau a rhai gyda cyflyrau sy'n cyfyngu ar fywyd. Gan ddefnyddio ei harbenigedd, gofynnwyd y cwestiynau effaith i’r plant a hefyd cael dealltwriaeth o’r hyn sydd bwysicaf iddynt wrth fynychu gweithgareddau, tra roeddem ni yn ymgysylltu gyda’r rhieni i gael gwell dealltwriaeth am yr effaith arnynt hwy yn ogystal â’r plant.

Wrth gwrs, mi fydd sefyllfaoedd lle nad oes bosib cynnwys rhanddeiliaid e.e. unigolion nad sydd wedi cael newidiadau positif, ac fe fyddwn ni drwy’r amser yn cynnwys eraill, ee rhieni, aelodau staff, gweithwyr cefnogaeth a hefyd edrych ar ddata arall a gwaith ymchwil. Y bwriad pennaf o hyn oll yw hwyluso’r broses ac i greu gofod cyfforddus lle fod modd i’r unigolyn adrodd ei stori. Yr unigolyn sydd yn gwybod orau, a dim ond wrth ofyn i bobl mae modd i ni ddeall beth sydd yn digwydd a hefyd grymuso pobl i gyfathrebu beth sydd bwysicaf. Cadarnhawyd hyn drwy sylwadau gan un unigolyn ar ddiwedd sesiwn gyda mudiad yn cefnogi unigolion gyda phroblemau iechyd meddwl,

‘Diolch i chi am roi cyfle i mi gymryd rhan ac am wrando ar fy stori’.


Yn ôl i'r dudalen blog.