Cwestiynau Effaith
Blog Dr Adam Richards - 07/12/2018
Mae pobl yn aml yn gofyn ‘Sut ydych chi yn mesur gwerth / effaith cymdeithasol – ac yn aml cyn i ni gael amser i ateb, mae pobl yn dweud ei fod yn rhy gymhleth a drud. Wel, gall hyn fod yn wir, ond nid oes angen cymryd hyn yn ganiataol.
Cyn i mi amlinellu sut dylai hyn gael ei wneud yn gymharol, mae angen edrych ar y gair ‘mesur’, gan fy mod yn credu fod yr ateb i bob dim yn y gair yma.
Gobeithio nad ydych yn meddwl mod i’n mynd i ormod o fanylder am ddulliau ymchwil, oherwydd nid oes angen gwneud hynny - ond be’r ydym angen mwy nac ymchwilio sut yr ydym yn mesur ydi deall pam fod angen mesur yn y lle cyntaf.
Yn aml, pan yr ydym yn clywed am neu yn meddwl am fesur, mae hynny oherwydd bod rhywun arall yn gofyn am dystiolaeth o ba mor effeithiol neu lwyddiannus yr ydym wedi bod wrth wneud rhywbeth. Ydi, mae hyn yn bwysig - ni ddylem wrthwynebu dangos ein bod wedi newid bywydau pobl er gwell a hefyd ein bod wedi cynorthwyo i wario’r arian yn ddoeth. Ond dylem weld y broses o fesur yn llawer mwy na hyn – mae mesur yn iawn, ond beth am ddefnyddio’r wybodaeth yma ar gyfer rheoli? Mae rheoli yn golygu gwneud rhywbeth yn well, Gall hyn ein galluogi i fod yn fwy llwyddiannus, a newid bywydau pobl cymaint â phosib o fewn cyfyngiadau adnoddau.
Ym myd cyllid, mae cyfrifon ac adroddiadau yn cael eu cynhyrchu nid yn unig ar gyfer dangos i bobl pa mor effeithiol maent wedi bod. Maent wedi eu creu er mwyn cael dylanwad ar rhai pobl er mwyn gwneud penderfyniadau gwahanol - os ydynt yn cyfranddaliwr, gall ddewis buddsoddi mewn un cyfle neu’r llall - os ydynt yn ymddiriedolwr, eu dewis i fuddsoddi mewn un prosiect neu’r llall - os ydynt yn rheolwr, eu dewis yw cwblhau prosiect un ffordd neu llall. Pwy bynnag yw’r gynulleidfa, mae ganddynt ddewis. Felly, pam ydym yn cynhyrchu adroddiadau mesur gwerth neu effaith yn edrych arno fel ffordd o gyfathrebu’r canlyniadau o’n gwaith i eraill yn unig?
I mi, yn aml hyn yw’r her fwyaf i bobl, ond mae hefyd yn allwedd bwysig i ddeall pwysigrwydd mesur. Os ydym yn edrych ar yr wybodaeth yr ydym yn ei gasglu o ganlyniad i ofyn i bobl beth sydd wedi newid iddynt a pha mor werthfawr ydi’r wybodaeth yma (gan ddefnyddio iaith ariannol neu ddim) yna dylem weld cyfleoedd i wneud mwy o waith da (a hefyd mae’r lleihau’r posibilrwydd o unrhyw ddeilliannau negyddol). Ac yn bosib yr oblygiadau pwysicaf yw nad oes angen i ni gynhyrchu gwybodaeth o’r safon uchaf, sy’n cynnwys arbrofion gwyddonol, neu sydd â chost uchel o ran adnoddau ac yn ariannol.
Mae yna derm yr ydym yn ei ddefnyddio’n aml sef, digon cywir ar gyfer y penderfyniad. Yn syml, mae’n meddwl ein bod angen tystiolaeth sydd yn ddigon da i gefnogi ein penderfyniad. Ia, os ydym yn meddwl newid polisïau’r llywodraeth yna bydd angen bod yn fanwl iawn. Ond, os yr ydym yn edrych ar ffyrdd gwahanol i ddarparu gwasanaeth yna ni fydd angen hyn.
Nid wyf yn dweud fod unrhyw dystiolaeth yn dystiolaeth dda yn angenrheidiol. Ond os ydym yn cynnwys y bobl lle mae newidiadau wedi cymryd lle oherwydd ein gweithgareddau, ac yna rhoi'r cyfle i ddweud pa newidiadau sydd wedi cymryd lle (nid yn unig y nod sydd wedi eu cyflawni), a pha mor bwysig yw'r newidiadau, yna 'rydym ar ein ffordd i gael tystiolaeth ddefnyddiol iawn.
Oce, ‘rwyf yn gwerthfawrogi y byddwn yn parhau i weld newidiadau, ac mi fydd hyn yn parhau. Ond, os yr ydym yn cychwyn o safbwynt y byddwn yn defnyddio’r wybodaeth er mwyn ein galluogi i wneud penderfyniadau, gallwn leihau’r angen i gael canlyniadau fanwl gywirdeb di angen , a hefyd yr esgus nad oes bosib i ni gasglu tystiolaeth gan ei fod yn rhy gostus (rhaid i ni gofio os nad ydym yn casglu tystiolaeth gan ein rhanddeilwyr, yna ni fyddwn yneu helpu nhw gymaint ag y gallwn).
Mae’r rhai ohonoch sydd yn gweithio yn y maes gwerth cymdeithasol/ effaith yn gweld tyfiant yn y cydgyfeiriant a derbyniad o gwmpas y 10 Cwestiwn Effaith sydd yn ein cynorthwyo i fesur a rheoli ein heffaith. Mae hyn yn golygu gallwn barhau i baratoi adroddiadau i eraill sydd yn dangos pa mor effeithiol ydym, ond mae hefyd yn ein helpu i newid bywydau pobl rhagor – nid ydynt yn un neu’r llall.
Mae'r deg Cwestiwn effaith ar gael yma.
Yn ôl i'r dudalen blog.