Cyfeillion Gwirfoddol

Mudiad: Mantell Gwynedd

Disgrifiad:

Dewch yn rhan o gynllun Ffrindia' Newydd!

Fel gwirfoddolwr, byddwch yn cael eu paru â pherson ynysig neu unig er mwyn ffonio neu gyfarfod wyneb yn wyneb yn y gymuned yn rheolaidd. Wrth i'r berthynas ddatblygu, efallai y byddwch chi eisiau mynd am dro neu ymweld â'r llyfrgell neu fynd allan i ginio gyda'ch gilydd.  Nod y cynllun yw lleihau'r teimlad o unigrwydd yn yr unigolion hyn trwy gwmnïaeth a hybu eu hunanhyder a'u hannibyniaeth.

Bwriad y prosiect yw:

  • Codi annibyniaeth a hyder unigolion sydd ar ffiniau’r gymuned
  • Rhoi profiad gwirfoddoli ystyrlon a boddhad personol i wirfoddolwyr
  • Lleihau unigrwydd a chreu cymunedau cryf a chyfeillgar!

Lleoliad: Arfon (gogledd Gwynedd)

Oed: 18+

Manylion pellach:

Rol Ddisgrfiad llawn

Math o gyfle:

Cyteillio

Dyddiau gwirfoddoli:

Hyblyg- bydd hyn yn cael ei drefnu gyda chi a'r unigolyn

Holwch am y cyfle hwn

Pob Cyfle