Cyfaill Cartref Gofal

Mudiad: Book of you CIC

Disgrifiad:

Fedrwch chi roi dim ond un awr yr wythnos i wneud gwahaniaeth i fywyd rhywun sy’n byw mewn gofal preswyl?

 

Os “MEDRAF” yw’r ateb, yna byddai Book of You yn hoffi clywed gennych!

 

Yr ydym yn chwilio am wirfoddolwyr Cymraeg a Saesneg eu hiaith i alw mewn cartrefi gofal ar hyd a lled Gogledd Cymru am awr bob wythnos, i ddod yn ffrind a sgwrsio hefo preswylydd fel rhan o’n Prosiect Cyfaill Cartref Gofal, wedi ei ariannu gan Loteri Côd Post y Bobl. Darperir hyfforddiant a gwirio llawn a hefyd Credydau Amser Tempo fel diolch am eich cefnogaeth gwerthfawr.

 

Menter gymdeithasol wedi ennill gwobrau yw Book of You hefo’i seiliau yng Ngogledd Cymru. Dros y blynyddoedd, mae wedi gweithio hefo sawl math o gleientiaid yn cynnwys pobl hŷn, cyn-wasanaethyddion, ffoaduriaid ac oedolion ifanc hefo anabledd dysgu. Gwelsom dros ein hunain fod llawer o breswylwyr cartrefi gofal yn cael ychydig, os unrhyw, ymwelwyr, a gwyddom y gall ymweliad gan rywun sy’n malio wneud gwahaniaeth aruthrol i hunan-lesiant. Ar hyn o bryd yr ydym yn rhedeg yn llwyddiannus yn Siroedd Dinbych, Conwy a Penfro a hoffem ymestyn manteision Cyfeillion Cartrefi Gofal ar draws y cyfan o Ogledd Cymru dros y 12 mis nesaf.

Lleoliad: Ar draws Gwynedd

Oed: 18+

Manylion pellach:

  • Darperir hyfforddiant
  • Gwiriadau DBS wedi'u cynnal
  • Costau teithio yn cael eu had-dalu

Math o gyfle:

  • Iechyd a gofal cymdeithasol
  • Cyfeillio
  • Cymuned
  • Oedolion
  • Pobl hŷn

Dyddiau gwirfoddoli:

  • Hyblyg ac i'w drafod

Holwch am y cyfle hwn

Pob Cyfle