Polisiau/ Taflenni Gwybodaeth

Croeso i’r Adran Wybodaeth.

Mae gan Mantell Gwynedd doreth o wybodaeth i gynorthwyo’r Trydydd Sector i weithredu.

Os na ellir dod o hyd i’r wybodaeth yr ydych ei angen, a wnewch chi gwblhau'r Ffurflen Ymholiad.

Trefniadau gweithredu ynglyn â Sylwadau, Canmoliaeth & Chwynion Mantell Gwynedd - cliciwch yma

Mae grwpiau gwirfoddol a chymunedol yn chwarae rhan flaenllaw o ran darparu gwasanaethau a gweithgareddau i blant a phobl ifanc. Mae'n bwysig fod gwasanaethau a gweithgareddau unrhyw wasanaeth neu fudiad yn cael eu darparu yn y modd mwyaf diogel. I sicrhau hynny mae gofyn bod gweithdrefnau perthnasol yn eu lle ym mhob mudiad.

Yn ôl cyfraith y Deyrnas Unedig, mae unrhyw un dan 18 oed yn cael ei ystyried fel plentyn. Mae sicrhau fod gan eich mudiad weithdrefnau mewn lle yn ffordd i’ch cynorthwyo i ddiogelu plant a phobl ifanc rhag niwed a rhag cael eu cam-drin. Ar ben hynny, bydd eich staff a’ch gwirfoddolwyr yn gwybod beth i’w wneud os ydyn nhw’n poeni am blentyn neu berson ifanc.

Mae’r NSPCC yn defnyddio’r gair “diogelu” i olygu’r broses o ddiogelu person rhag niwed boed yn ddamweiniau, camdriniaeth fwriadol, esgeulustod (bwriadol ai peidio) neu ffactorau megis bwlio, agweddau rhagfarnllyd neu fethiant i alluogi person i gyfranogi mewn gweithgareddau sy’n agored i’r rhan fwyaf o’i gymheiriaid.

Cliciwch yma i fynd i'r dudalen Diogelu

Llawlyfr Marchnata Neuaddau Cymunedol

Mae Cyngor Gwirfoddol Powys wedi cynhyrchu Llawlyfr Marchnata ar gyfer Neuaddau Cymunedol. Cyfieithwyd yna gan Gyngor Gwynedd. Mae hwn yn ddarn defnyddiol iawn i’r rhai sy’n gyfrifol am y neuaddau ar sut i sicrhau y defnydd orau o’r Neuaddau ac i’ch helpu i ystyried yn union be’ sydd gennych i’w gynnig a sut i gyfleu hynny i’r gymuned. Mi fydd Bethan Jones Parry hefyd yn trafod am farchnata neuaddau yn y Fforwm Neuaddau nesaf a fydd yn y Ganolfan ym Mhorthmadog, 6.30yh 19eg o Fawrth 2014. cliciwch yma

Arweiniad Statudol Diogelu - cliciwch yma

Cael at wasanaethau cyngor pro bono - cliciwch yma

 

Ceir rhestr o Gyhoeddiadau a Chanllawiau sydd o gymorth i fudiadau gwirfoddol ar wefan Comisiwn Elusennau Cymru a Lloegr


Cyngor Gwirfoddol Gweithredol Cymru (WCVA)