Cyfeillio gwirfoddol
Mudiad: Derwen
Disgrifiad:
Mae Amser Ni yn mynd â phlant ac oedolion ifanc ar dripiau ac yn cymryd rhan mewn gweithgareddau hwyliog.
Mae'r teithiau hyn yn canolbwyntio ar gael hwyl a chyfle i'r cyfranogwyr gymdeithasu a gwneud ffrindiau newydd mewn amgylchedd diogel.
Fel gwirfoddolwr bydd disgwyl i chi wneud yn siŵr bod pawb yn hapus ac yn cael amser da.
Byddem hefyd yn gobeithio y byddwch yn cymryd rhan yn y gweithgareddau arfaethedig.
Gallwn eich codi a'ch gollwng gartref. Telir am fwyd a gweithgareddau.
Gallwch ddod ar gynifer neu gyn lleied o deithiau ag y dymunwch.
Os hoffech chi wneud newid cadarnhaol ym mywydau rhai pobl ifanc (wrth gael hwyl) cysylltwch â ni.
Lleoliad: Ar draws Gwynedd
Oed: 18+
Manylion pellach:
- Byddwn yn cynnal gwiriadau DBS
- Darperir hyfforddiant
- Telir costau teithio
- Anghenion cymorth ychwanegol
Math o gyfle:
- Plant a theuluoedd
- Cymuned
- Pobl ifanc
Dyddiau gwirfoddoli:
- Hyblyg- gallwch ddod ar gynifer neu gyn lleied o deithiau ag y dymunwch.
Holwch am y cyfle hwn