Dechrau newydd i Wasanaethau Ieuenctid yng Ngwynedd
Bydd y ffordd y mae gwasanaethau ieuenctid yn cael eu darparu yng Ngwynedd i’r dyfodol yn seiliedig ar ddyheadau a barn pobl ifanc y sir.
Yn dilyn gwaith sylweddol gan weithgor craffu o gynghorwyr a sefydlwyd i adolygu gwasanaethau ieuenctid yng Ngwynedd, mae’r Cyngor wedi ymrwymo i weithio’n agos gyda’i bartneriaid i wella’r ddarpariaeth sy’n cael ei gynnig i bobl ifanc.
Cynhaliodd y Gweithgor Craffu adolygiad eang o wasanaethau ieuenctid trwy’r sir a daeth i'r casgliad fod gan Wynedd weithiwyr ieuenctid ymroddedig, gyda’r nifer o bobl ifanc sy’n cymryd rhan mewn sefydliadau ieuenctid ymhlith yr uchaf yng Nghymru. Er hynny, gwelodd yr adolygiad fod yna brinder aelodau y tu hwnt i 16 oed, fod yna anawsterau wrth gyrraedd y grwpiau anodd eu cyrraedd, yn ogystal â sefydliadau ieuenctid yn dyblygu ac yn cystadlu yn erbyn ei gilydd.
Dywedodd y Cynghorydd Sian Gwenllian, Cadeirydd y Gweithgor Gwella Gwasanaethau Ieuenctid Cyngor Gwynedd:
“Yr hyn yr ydan ni’n awyddus ei weld ydi rhwydwaith o grwpiau ieuenctid ar draws Gwynedd sy’n cael eu cydlynu’n effeithiol, eu cynnal yn uniongyrchol gan Wasanaeth Ieuenctid y Cyngor a’i bartneriaid, gan gynnig cyfleon sy’n apelio’n uniongyrchol i’n pobl ifanc.
“Dyna pam fod y Cyngor wedi mabwysiadu’r argymhellion 21-pwynt a gyflwynwyd gan y Gweithgor Craffu a fydd yn gosod cyfeiriad strategol clir i wasanaethau ieuenctid yn y sir. Wedi i ni weithredu ar farn a sylwadau pobl ifanc Gwynedd, yr her yn awr fydd estyn allan iddyn nhw a sicrhau ein bod yn darparu’r cyfleon a’r gweithgareddau y maen nhw’n awyddus eu cael.”
Fel rhan o welliannau, mae’r Cyngor eisoes yn y broses o sefydlu Bws Ieuenctid Gwynedd a fydd yn teithio cymunedau ledled y sir. Nod y cynllun yw ehangu’r gwasanaeth sy’n cael ei gynnig i bobl ifanc Gwynedd, gan ddatblygu cyfleusterau ac adnoddau ynghyd a gwella mynediad i wasanaethau a chynghori ar gyfer pobl ifanc o bob oedran rhwng 11 a 25 oed, rhieni ifanc a phobl ifanc sy’n anodd eu cyrraedd. Bydd Bws Ieuenctid Gwynedd yn cael ei lansio yn yr wythnosau nesaf.
Ychwanegodd y Cynghorydd Roy Owen, sy’n arwain ar Wasanaethau Ieuenctid i Gyngor Gwynedd:
“Gall Gwynedd ymfalchïo yn y ffaith fod gennym rhai o’r gweithwyr ieuenctid mwyaf ymroddedig a brwdfrydig yn y wlad. Dyna pam ein bod wedi ymrwymo i roi’r gefnogaeth a chyfeiriad angenrheidiol iddyn nhw fel y gallant helpu i sicrhau’r cyfleon gorau i blant a phobl ifanc Gwynedd.
“Ein nod i’r dyfodol fydd cynnig amrediad o gyfleon a gweithgareddau hwyliog ar gyfer pobl ifanc Gwynedd.”
Edrychodd yr arolwg a gynhaliwyd gan un o Weithgorau Craffu Cyngor Gwynedd ar amrywiaeth o sefydliadau ieuenctid sy’n cynnig cyfleon i blant a phobl ifanc oed ysgolion uwchradd a hŷn yng Ngwynedd, o glybiau ieuenctid y Cyngor i Urdd Gobaith Cymru, Clybiau Ffermwyr Ifanc, y Sgowtiaid, y Geidiaid a Chynllun Gwobr Dug Caeredin
05/03/2010 |