Mantell Gwynedd Lluniau Gwynedd
Maint y testun A : A | Map o'r wefan | E-bostiwch ni | Sôn wrth ffrind | Marciwch ni

 

Cyfeirlyfr Iechyd

Mae Mantell Gwynedd yn cefnogi, datblygu a chynghori mudiadau gwirfoddol a chymunedol yng Ngwynedd

Newyddion Newydd

Tanwariant Cronfa Cymorth Gwynedd 2009-10

At: Aelodau Partneriaeth Strategol Plant a Phobl Ifanc Gwynedd Aelodau’r Grwpiau Strategol Grwpiau, Mudiadau ac Asiantaethau Plant a Phobl Ifanc yng Ngwynedd

Ysgrifennaf atoch i’ch hysbysu o’r cyfle i gyflwyno cais am gyllid o danwariant Cronfa Cymorth Gwynedd 2009 / 10.

Atodaf y ffurflen i’w ddefnyddio ar gyfer cyflwyno cais. I ymgeisio am gyllid, dylech gwblhau pob rhan o’r ffurflen mor fanwl ag sy’n bosibl a’i ddychwelyd drwy e-bost at Gwenda Jones, Swyddog Cefnogol - GwendaJones@gwynedd.gov.ukerbyn 01 Mawrth 2010. Ni roddir ystyriaeth i geisiadau a dderbynnir ar ôl y dyddiad cau. Ni fydd ystyriaeth yn cael ei roi ychwaith i geisiadau sydd ddim yn cael eu cyflwyno ar y ffurflen gywir.

Nid oes isafswm neu uchafswm y gellir ymgeisio amdano. Fodd bynnag, bydd angen gwario’r cyllid cyn diwedd y flwyddyn ariannol bresennol (31 Mawrth 2010).

Er nad oes cyfyngiadau ar yr hyn y gellid ymgeisio amdano, rhaid i geisiadau gyd-fynd â themâu Cronfa Cymorth yn ogystal ag Amcanion Strategol Cynllun Plant a Phobl Ifanc Gwynedd. Rhoddir blaenoriaeth i geisiadau sy’n ymateb i brif feysydd blaenoriaeth strategol y Cynllun Plant a Phobl Ifanc (gweler y ddogfen atodol am ragor o wybodaeth).

Mae unrhyw grwp, fudiad neu asiantaeth sy’n darparu gwasanaethau, profiadau a chyfleoedd i blant, pobl ifanc a / neu deuluoedd Gwynedd yn gymwys i gyflwyno cais.

Mae croeso i chi gysylltu â Bethan Wrench, Swyddog Comisiynu ac Ansawdd ar (01286) 679971 neu BethanWrench@gwynedd.gov.uk os hoffech drafod y mater hwn ymhellach.

25/02/2010

 

 

 

 
Logo yr Undeb Ewropiaidd Cronfa Amcan 1 24-26 Stryd Fawr, Caernarfon, LL55 1RH [t]01286 672626 [f]01286 678430 Yr Hen Orsedd, Y Lawnt, Dolgellau LL40 1SB [t]01341 422575 [f]01341 422147 Elusen Cofrestredig: 1068851 · Cwmni Trwy Warant: 3420271 · Cofresrwyd yng Nghymru