Cyfarfod nesaf Rhwydwaith Plant a Phobl Ifanc Gwynedd
Bydd cyfarfod nesaf y Rhwydwaith PPI yn cymryd lle ar ddydd Mawrth 16eg Mawrth 2010 yn Eglwys y Santes Fair yn Nhremadog rhwng 10:00yb a 2:30yp.
Gan ein bod eisoes wedi trefnu gweithdy ar ddiweddariadu’r ISA/CRB (trwy’r WCVA) ar gyfer mudiadau’r sector gwirfoddol yn y bore, roedd yn gwneud synhwyr i ni gyplysu’r ddau beth er mwyn cynnal un digwyddiad i bawb.
(Yn anffodus bydd cost o £45 i unrhyw un sydd ddim o fudiad gwirfoddol i fynychu’r gweithdy ISA).
Er mwyn eich annog i aros ar gyfer y pryhnawn, byddwn yn trefnu cinio ar eich cyfer.
Dyma raglan DDRAFFT felly ar gyfer y dydd:
9:45 Cyrraedd a phaned
10:00 Gweithdy ISA/CRB
12:00 Cinio
12:45 Diweddariad gan Swyddogion Chwarae Gwynedd (Kelly/Ceri)
13:15 Rhwydweithio a Rhannu Gwybodaeth rhwng mudiadau.
E.e. Materion Partneriaeth PPI/Craffu ayb
13:45/14:00 Elfyn Jones (Bwrdd Lleol Diogelu Plant) – Cyfarwyddyd ar y
Fframwaith Sicrwydd Ansawdd
25/02/2010 |