Dogfen Ymgynghorol – Cymry Ifanc Young Wales
Yngynghoriad ar ‘Ganllawiau Statudol ar gyfer Gwasanaethau Cymorth Ieuenctid 11-25 a Gwasanaethau Cymorth i Ddysgwyr 14-19’
Dyddiad cau ar gyfer ymateb: 31 Mawrth 2010
Mae’r ddogfen hon wedi ei chyhoeddi er mwyn disgrifio’r cyfarwyddyd cyfreithiol a’r cyfrifoldebau sydd ar Wasanaethau Cymorth Ieuenctid a Gwasanaethau Cymorth i Ddysgwyr, er mwyn gwneud yn glir pa fath o gymorth a chyfleoedd y dylai pobl ifanc fod yn eu disgwyl. Bydd y canllawiau yn y ddogfen yn cryfhau trefniadau presenol ac yn disodli’r canllawiau a gyhoeddwyd yn 2002 o dan Ymestyn Hawliau.
Bydd y canllawiau hyn yn nodi’r disgwyliadau ar Bartneriaethau ar draws Cymru wrth adolygu eu Cynlluniau Plant a Phobl Ifanc yn flynyddol. Y ddogfen yma fydd y sail ar gyfer unrhyw ddiwygiadau i’r rownd nesaf o Gynlluniau.
Bydd Mantell Gwynedd yn casglu sylwadau o’r Trydydd Sector yng Ngwynedd ar gyfer ymateb i’r ddogfen. Wrth gwrs mae croeso i unrhyw un ymateb yn uniongyrchol i’r Cynulliad os dymunent. Ceir manylion pellach am hyn yn y ddogfen. (Mae ffurflen ymated wedi ei hatodi er mwyn hwyluso cyfathrebu).
Os hoffech i Mantell fod yn ymateb ar eich rhan yn a fyddech cystal a gyrru unrhyw sylwadau ata i Ann Vaughan Jones (annvaughan@mantellgwynedd.com) erbyn dydd Llun yr 22ain o Fawrth fan bellaf os gwelwch yn dda?
Bydd digwyddiad ymgynghorol hefyd yn cael ei gynnal yn Wrecsam ar y 25ain o Fawrth. Mae croeso i unrhyw un sy’n ymwneud â’r maes fynychu. Am ragor o wybodaeth neu i logi lle, cysylltwch â Sue Whitford, Uned Cefnogi’r Partneriaethau, Cymdeithas Llywodraeth Lleol Cymru (sue.whitford@wlga.gov.uk Ffôn: 02920 46 8514) cyn gynted â phosib os gwelwch yn dda? Ar y naill arall, llenwch y ffurflen gadw lle, sydd wedi ei hatodi, a’i hanfon yn ôl at Sue ar fyrder, gan nodi’n glir ddyddiad y digwyddiad yn y gogledd.
I lawrlwytho copi o’r ddogfen dilynnwch y ddolen ganlynol:
http://wales.gov.uk/docs/dcells/consultation/101209youthsupportcy.pdf
25/02/2010 |