Mantell Gwynedd Lluniau Gwynedd
Maint y testun A : A | Map o'r wefan | E-bostiwch ni | Sôn wrth ffrind | Marciwch ni

 

Cyfeirlyfr Iechyd

Mae Mantell Gwynedd yn cefnogi, datblygu a chynghori mudiadau gwirfoddol a chymunedol yng Ngwynedd

Newyddion Newydd

Cynllunio busnes yn gyfranogol ar gyfer Cynghorau Gwirfoddol Sirol a mudiadau aelodaeth trydydd sector yng Nghymru

30 Mawrth, 2yh-4yh, Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam

Mae Cyfranogaeth Cymru yn gweithio ar y cyd gyda Gweithredu Gwirfoddol Caerdydd i ddal y seminar yma ar Gynllunio busnes yn Gyfranogol sydd wedi’u hanelu ato Gynghorau Gwirfoddol Sirol a mudiadau aelodaeth Trydydd Sector eraill yng Nghymru.

Bydd y seminar yn rhannu model cynllunio busnes cyfranogol Gweithredu Gwirfoddol Caerdydd a hefyd ei phrofiadau: beth wnaethon nhw, sut wnaethant nhw ei wneud a beth ddysgon. Bydd trafodaeth cynorthwyedig yn dilyn, er mwyn ymchwilio a rhannu ymarfer da cyfredol o amgylch aelodau, er mwyn canfod dysgu ac ymarfer da.

Yn dilyn y seminar rydym yn gobeithio bydd ganddo’ch syniadau a’r arfau i ddefnyddio o fewn eich mudiad i sicrhau bod eich cynllunio busnes yn cyd-fynd â barnau a phrofiadau eich aelodau.

Os hoffech chi archebu lle yn y seminar, yna cysylltwch â Lein Gymorth WCVA ar 0800 2888 329, e-bost: participationcymru@wcva.org.uk neu ewch i www.participationcymru.org.uk/training/seminars. Bydd llefydd yn cael eu dyrenni ar sail y gyntaf i’r felin ac maent yn £5 ar gyfer aelodau WCVA a £10 ar gyfer mudiadau sydd ddim yn aelodau o WCVA.

25/02/2010

 

 

 

 
Logo yr Undeb Ewropiaidd Cronfa Amcan 1 24-26 Stryd Fawr, Caernarfon, LL55 1RH [t]01286 672626 [f]01286 678430 Yr Hen Orsedd, Y Lawnt, Dolgellau LL40 1SB [t]01341 422575 [f]01341 422147 Elusen Cofrestredig: 1068851 · Cwmni Trwy Warant: 3420271 · Cofresrwyd yng Nghymru