Mantell Gwynedd Lluniau Gwynedd
Maint y testun A : A | Map o'r wefan | E-bostiwch ni | Sôn wrth ffrind | Marciwch ni

 

Cyfeirlyfr Iechyd

Mae Mantell Gwynedd yn cefnogi, datblygu a chynghori mudiadau gwirfoddol a chymunedol yng Ngwynedd

Newyddion Newydd

Sut i arbed arian ac arbed yr amgylchedd

Mae Partneriaeth Amgylcheddol Gwynedd yn cynnal ei chynhadledd flynyddol ar y thema ‘Sut i arbed arian ac arbed yr amgylchedd’ ar nos Fercher, 27 Ionawr 2010 am 6pm yn Ysgol Eifion Wyn, Porthmadog. Mae’r gynhadledd yn agored i unrhyw un fynychu ac yn rhad ac am ddim.

Bydd y gynhadledd yn darparu gwybodaeth ar sut gall unigolion wneud eu rhan i arbed yr amgylchedd a rhwystro newid hinsawdd, gan arbed arian yr un pryd. Ceir gwybodaeth hefyd ar sut i arbed cannoedd ar eich bil trydan, sut i gynhyrchu ynni eich hun, sut gall tyfu bwyd arbed arian mawr a llawer mwy.

Bydd lluniaeth ysgafn ar gael a cheir cyfle i ennill coed afalau Enlli. Am fwy o wybodaeth ewch i www.pagwynedd.org neu i archebu lle ffoniwch 01286 679652 neu e-bostio: PartneriaethAmgylcheddol@gwynedd.gov.uk

18/01/2010

 

 

 

 
Logo yr Undeb Ewropiaidd Cronfa Amcan 1 24-26 Stryd Fawr, Caernarfon, LL55 1RH [t]01286 672626 [f]01286 678430 Yr Hen Orsedd, Y Lawnt, Dolgellau LL40 1SB [t]01341 422575 [f]01341 422147 Elusen Cofrestredig: 1068851 · Cwmni Trwy Warant: 3420271 · Cofresrwyd yng Nghymru