Mantell Gwynedd Lluniau Gwynedd
Maint y testun A : A | Map o'r wefan | E-bostiwch ni | Sôn wrth ffrind | Marciwch ni

 

Cyfeirlyfr Iechyd

Mae Mantell Gwynedd yn cefnogi, datblygu a chynghori mudiadau gwirfoddol a chymunedol yng Ngwynedd

Newyddion Newydd

Ymgynghori ar adolygu Safonau Gofal Iechyd Cymru 2009

Dechrau'r cyfnod ymgynghori: 16/11/2009 Diwedd y cyfnod ymgynghori: 08/02/2010

Ers ei lunio yn 2005, mae cyrff y GIG wedi defnyddio fframwaith Safonau Gofal Iechyd Cymru i helpu i wella safonau’r gwasanaethau y maent yn gyfrifol amdanynt.

Nod y safonau yw helpu cyrff gofal iechyd i nodi safonau gofal sy’n gyson uwch fel y gallant weithio tuag at y safonau hynny. Mae’r broses hon wedi helpu i gyflawni gwelliannau lleol a nodi meysydd sydd angen sylw ledled Cymru, ac mae’n allweddol o ran rhoi sicrwydd i ddinasyddion Cymru fod ansawdd a diogelwch y gwasanaethau a ddarperir yn bwysig iawn i’r GIG.

Yn sgîl diwygio’r GIG penderfynwyd y dylid mynd ati i adolygu Safonau Gofal Iechyd Cymru, i sicrhau eu bod yn cynnig fframwaith sy’n galluogi cyrff i edrych mewn ffordd integredig ar draws yr ystod o wasanaethau a ddarperir. Mae’r adolygiad hefyd yn gyfle i wneud y Safonau Gofynnol Cenedlaethol (sy’n berthnasol i ddarparwyr gofal iechyd preifat a gwirfoddol sydd wedi’u cofrestru ar hyn o bryd, neu y bydd yn rhaid iddynt gofrestru, gyda Gweinidiogion Cymru o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000) yn fwy cyson, lle y gellir, â’r Safonau Gofal Iechyd.

Mae’r ddogfen ymgynghori ar gael ar wefan y Llywodraeth y Cynulliad a HOWIS Am gopi o’r ddogfen ewch ar http://new.wales.gov.uk/consultations/healthsocialcare/healthcarestandards/?skip=1&lang=cy

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â:
Wendy Morgan – Llywodraeth y Cynulliad
Ffôn: 02920 823209 ebost: wendy.morgan@wales.gsi.gov.uk

30/11/2009

 

 

 

 
Logo yr Undeb Ewropiaidd Cronfa Amcan 1 24-26 Stryd Fawr, Caernarfon, LL55 1RH [t]01286 672626 [f]01286 678430 Yr Hen Orsedd, Y Lawnt, Dolgellau LL40 1SB [t]01341 422575 [f]01341 422147 Elusen Cofrestredig: 1068851 · Cwmni Trwy Warant: 3420271 · Cofresrwyd yng Nghymru