Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yw’r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru. Mae’n darparu amrediad llawn o wasanaethau cychwynnol, cymunedol, iechyd meddwl ac ysbyty llym ar gyfer poblogaeth o oddeutu 676,000 o bobl sy’n byw yn chwe sir Gogledd Cymru (Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam) yn ogystal â rhai rhannau o ganolbarth Cymru, Sir Gaer, a Sir Amwythig.
Mae’r Bwrdd Iechyd yn cyflogi oddeutu 18,000 aelod o staff ac mae ganddo gyllideb o oddeutu £1.1 biliwn. Mae’n gyfrifol am weithredu tri ysbyty cyffredinol (Ysbyty Gwynedd ym Mangor, Ysbyty Glan Clwyd ger y Rhyl, ac Ysbyty Maelor Wrecsam) yn ogystal â 22 o ysbytai llym a chymunedol eraill, a rhwydwaith o dros 90 o ganolfannau iechyd, clinigau, canolfannau timau iechyd cymunedol ac unedau iechyd meddwl. Mae hefyd yn cydlynu gwaith 121 o Feddygfeydd a gwasanaethau GIG sy’n cael eu darparu gan ddeintyddion, optegwyr a fferyllfeydd yng Ngogledd Cymru.
Cyfeiriad Post:
Ysbyty Gwynedd, Penrhosgarnedd, Bangor, Gwynedd LL57 2PW
Ffôn: +44 (0) 1248 384384
Am fwy o wybodaeth ewch ar eu gwefan http://www.bcu.wales.nhs.uk/
26/11/2009 |