Mantell Gwynedd Lluniau Gwynedd
Maint y testun A : A | Map o'r wefan | E-bostiwch ni | Sôn wrth ffrind | Marciwch ni

 

Cyfeirlyfr Iechyd

Mae Mantell Gwynedd yn cefnogi, datblygu a chynghori mudiadau gwirfoddol a chymunedol yng Ngwynedd

Newyddion Newydd

GWEITHDAI SUT I DENDRO drwy gyfrwng y Gymraeg

Intec, Parc Menai, Bangor, Gwynedd, LL57 4FG ar ddydd Mercher yr 16eg o Rhagfyr 2009 9.15am-1pm

Royal Ship Hotel, Dolgellau, Gwynedd, LL40 1AR ar ddydd Mawrth yr 8fed o Rhagfyr 2009 9.15am-1pm

Mae’r gweithdy’n cael ei drefnu gan ‘Gwasanaeth Datblygu Cyflenwyr’ Llywodraeth Cynulliad Cymru. Bwriad y rhaglen yw datblygu a chynorthwyo cwmnďau lleol i ennill cytundebau yn y sector gyhoeddus a phreifat.

Mae’r gweithdy yn gyfle i gael blas ar y byd tendro, a mewnwelediad i sut mae pethau’n gweithio o fewn y Sector Gyhoeddus ag ati. Byddwn yn cynnig cyngor ar wahanol elfennau o’r broses dendro, beth y dylech ei wneud, peidio a gwneud a llawer iawn mwy o ran ennill tendrau!

Agenda’r gweithdy:

9:15 Paned a chofrestru
9:30 Sut i dendro Rhan 1
11:00 Egwyl a phaned
11.15 Sut i dendro Rhan 2
12:30 Gorffen a chinio

Os hoffech ymuno â ni rhowch ganiad i Derwenna ar 01248 672610 neu anfon e-bost ati derwenna.bridle@menterabusnes.co.uk

Dim ond lle i 12 person sydd yn y gweithdy hwn, felly’r cyntaf i’r felin… ond mae croeso i chi roi eich enw ar restr wrth gefn ar gyfer y dyfodol.

20/11/2009

 

 

 

 
Logo yr Undeb Ewropiaidd Cronfa Amcan 1 24-26 Stryd Fawr, Caernarfon, LL55 1RH [t]01286 672626 [f]01286 678430 Yr Hen Orsedd, Y Lawnt, Dolgellau LL40 1SB [t]01341 422575 [f]01341 422147 Elusen Cofrestredig: 1068851 · Cwmni Trwy Warant: 3420271 · Cofresrwyd yng Nghymru