Mantell Gwynedd Lluniau Gwynedd
Maint y testun A : A | Map o'r wefan | E-bostiwch ni | Sôn wrth ffrind | Marciwch ni

 

Cyfeirlyfr Iechyd

Mae Mantell Gwynedd yn cefnogi, datblygu a chynghori mudiadau gwirfoddol a chymunedol yng Ngwynedd

Newyddion Newydd

Cynnig cyfleon diogel i blant Gwynedd

Fel rhan o’i ymrwymiad i sicrhau fod plant y sir yn dysgu am sut i fyw yn ddiogel yn eu cymunedau, mae Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Gwynedd wedi galluogi plant ysgolion cynradd a grwpiau ieuenctid ar draws y sir i fynychu Canolfan PentrePeryglon drwy sicrhau dyraniad ariannol.

Mae Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Gwynedd yn cynnwys aelodau statudol ac anstatudol, sy’n cynnwys Cyngor Gwynedd, Heddlu Gogledd Cymru, Gwasanaeth Tan ac Achub Gogledd Cymru, Awdurdod yr Heddlu ynghyd ag asiantaethau gwirfoddol a chymunedol. Nod y Bartneriaeth yw lleihau trosedd ac anhrefn a gwella bywydau trigolion Gwynedd.

Nododd Catherine Roberts o Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol Gwynedd:

“Mae Canolfan PentrePeryglon wedi’i leoli ar Lannau Dyfrdwy yn Sir y Fflint ac felly’n gallu golygu costau teithio uchel i rai ysgolion a grwpiau yng Ngwynedd. Gyda chostau mynediad yn ogystal, gall hyn olygu fod rhai plant a phobl ifanc yn methu allan ar y cyfle. Dyma pam ein bod wedi penderfynu cyfrannu tuag at y costau fel na fyddant yn colli allan ar gyfleon ddysgu gwerthfawr.”

Agorwyd Canolfan PentrePeryglon yn 2005 ac mae’n arbenigo mewn darparu addysg diogelwch rhyngweithiol i blant a phobl ifanc gogledd Cymru. Mae’n elusen gofrestredig sy’n hyrwyddo ymwybyddiaeth diogelwch i leihau marwolaethau damweiniol, anafiadau ac i hyrwyddo iechyd, lles a diogelwch cymunedol.

Mae gan y ganolfan nifer o senarios wedi eu sefydlu ac maent yn creu rhai newydd yn aml e.e. ystafell wely adref neu isbwerdy trydanol i adlewyrchu’r teimlad realistig, a'r perygl y gallent ei wynebu yn eu bywydau bob dydd. Mae’r senarios wedi eu creu i’r ansawdd uchaf i alluogi plant ddatblygu eu haddysg yn barhaol mewn ffordd ryngweithiol.

Mae’r gweithgareddau yn cael eu cynnal yn ddwyieithog ac wedi eu creu gyda chymorth athrawon. Mae hyn yn cyd-fynd gyda’r cwricwlwm cenedlaethol ac yn ychwanegu gwerth at sylfaen tystiolaeth ar gyfer arolygiadau.

Mae’r ganolfan yn cyflwyno cyfleusterau cyffrous i blant a phobl ifanc ddysgu’n rhyngweithiol, gydag effaith weledol gryf. Wedi’i gyfuno a storïau a senarios realistig mae PentrePeryglon yn cynnig profiad bythgofiadwy sy’n addysgu a chodi ymwybyddiaeth diogelwch.

Am fwy o fanylion gwelwch: www.dangerpoint.co.uk

17/11/2009

 

 

 

 
Logo yr Undeb Ewropiaidd Cronfa Amcan 1 24-26 Stryd Fawr, Caernarfon, LL55 1RH [t]01286 672626 [f]01286 678430 Yr Hen Orsedd, Y Lawnt, Dolgellau LL40 1SB [t]01341 422575 [f]01341 422147 Elusen Cofrestredig: 1068851 · Cwmni Trwy Warant: 3420271 · Cofresrwyd yng Nghymru