Mantell Gwynedd Lluniau Gwynedd
Maint y testun A : A | Map o'r wefan | E-bostiwch ni | Sôn wrth ffrind | Marciwch ni

 

Cyfeirlyfr Iechyd

Mae Mantell Gwynedd yn cefnogi, datblygu a chynghori mudiadau gwirfoddol a chymunedol yng Ngwynedd

Cyfleoedd Newydd

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Rhianon, Iola, Mirain neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen ‘Cofrestru Diddordeb

Institiwt Corris
Mae'r Institiwt yn Corris yn Ganolfan Gymunedol bywiog yng Nghwm Dyfi. Mae'r ganolfan wedi cael ei adnewyddu yn ddiweddar a mae cyfleusterau modern da ar gael i'r gymuned.
Mae gwirfoddolwyr yn cael eu croesawu bob amser ac mae angen help gyda amrywiaeth o weithgareddau yn cynnwys glanhau, gwaith swyddfa, codi arian, garddio, trefnu digwyddiadau a helpu yn y caffi.


Gweithgareddau i'r preswylwyr
Mae Cartref Dyfi yn gartref gofal i'r henoed wedi ei leoli yn Machynlleth. Mae cyfle i wirfoddolwyr drefnu gweithgareddau cymdeithasol i'r preswylwyr.
Dealltwriaeth o anghenion pobl oedrannus yn ddymunol


Help llaw cyffredinol - -Cwmni Ifanc Ty'r Ysgol
Canolfan Wybodaeth i bobl ifanc rhwng 11 a 26 mlwydd oed yw Cwmni Ifanc Ty'r Ysgol sy'n rhoi gwybodaeth ar unrhyw broblem a fydd yn codi ei ben mewn awyrgylch cyfeillgar a proffesiynnol.
Mae angen gwirfoddolwr i helpu gyda tasgau gwahanol e.e. gwaith swyddfa, glanhau, sgwrsio gyda pobl ifanc ayyb. Sgiliau yn cynnwys cyfrinachedd, amynedd a brwdfrydedd gyda pobl ifanc.


NSPCC - Cynorthwyo yn erbyn Creulondeb i Blant
Mae NSPCC yn chwilio am wirfoddolwyr i gynorthwyo yn ystod digwyddiad HACK ym Mhen Llŷn ar y 18fed Fedi 2010.Mae NSPCC yn trefnu nifer o ddigwyddiadau 'Hiking against Cruelty to Kids' o gwmpas y DU. Mae'r digwyddiadau yn codi arian a chodi ymwybyddiaeth o greulondeb i blant. Mae un digwyddiad yn digwydd ym Mhen Llŷn ar y 18fed Fedi 2010 ac mae'r NSPCC yn chwilio am wirfoddolwyr fedr gynorthwyo gyda'r digwyddiad ar y diwrnod. Am fwy o wybodaeth cysylltwch a Kirsty Messham 01352 700833 kmessham@NSPCC.org.uk

CAIS Cyf
Me Cais yn darparu gwasanaethau i bobl efo problemau alcohol a chyffuriau. Maent angen gwirfoddolwyr i fynd o amgylch Gwynedd i godi ymwybyddiaeth am wasanaethau Cais yn y gymuned.Sgiliau dymunol fyddai y gallu i siarad yn gyhoeddus. Darperir hyfforddiant a telir costau teithio.

Prosiect y Winllan Oriel Plas Glyn y Weddw
Amcan y Prosiect yw agor coedlen i'r cyhoedd fel adnodd cymunedol. Tasgau yn cynnwys casglu a chleirio coed, glanhau a chleirio llwybrau, creu ffensys, ail-blannu coed, trwsio waliau a.y.y.b. Byddai unrhyw brofiad o weithio allan yn yr awyr agored yn ddymunol

...mwy o wybodaeth? www.gwirfoddolicymru.net

 

 

 


Gwirfoddoli
: Cyfleoedd Newydd | Gwirfoddolwyr y Mileniwm | Gwasanaeth i Fudiadau | Cofrestru Diddordeb | Digwyddiadau | Newyddion

 
Logo yr Undeb Ewropiaidd Cronfa Amcan 1 24-26 Stryd Fawr, Caernarfon, LL55 1RH [t]01286 672626 [f]01286 678430 Yr Hen Orsedd, Y Lawnt, Dolgellau LL40 1SB [t]01341 422575 [f]01341 422147 Elusen Cofrestredig: 1068851 · Cwmni Trwy Warant: 3420271 · Cofresrwyd yng Nghymru