Rhestrir nifer o ddolennau cyswllt defnyddiol a pherthnasol yn yr adran yma. Drwy glicio ar y linciau yma gallwch fynd yn syth i’r gwefannau.
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cyfuno Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Cymru (Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Ddwyrain Cymru ac Ymddiriedolaeth GIG Siroedd Conwy a Dinbych fel yr arferent fod), Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Orllewin Cymru, a chwe Bwrdd Iechyd Lleol Ynys Mon, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd a Wrecsam. www.bcu.wales.nhs.uk
Codi Pontydd Cadarn Mae'r wefan hon wedi ei llunio'n bwrpasol ar gyfer iechyd a lles y sector gwirfoddol a bydd yn caniatáu mynediad at yr hwyluswyr iechyd a gofal cymdeithasol lleol sydd wedi eu lleoli ym mhob Cyngor Gwirfoddol Sirol a'r Hwylusydd Cenedlaethol yn CGGC www.codipontyddcadarn.org.uk
Cyngor Gwynedd
Cyngor Gwynedd. Cyngor Gwynedd ydy'r awdurdod lleol sy'n gyfrifol am yr ardal o Fangor i Aberdyfi ac o Aberdaron i Landderfel yng ngogledd-orllewin Cymru. www.gwynedd.gov.uk ymholiadau@gwynedd.gov.uk
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw'r corff cynrychioliadol sydd â phwerau i lunio deddfwriaeth mewn meysydd sydd wedi'u datganoli. Mae ganddo chwe deg o aelodau etholedig, a'r Senedd yw ei fan cyfarfod. www.wales.gov.uk assembly.info@wales.gsi.gov.uk
Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru
Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru yw llais y sector gwirfoddol yng Nghymru. Mae'n cynrychioli ac yn ymgyrchu dros fudiadau gwirfoddol, gwirfoddolwyr a chymunedau yng Nghymru.
www.wcva.org.uk info@wcva.org.uk