Mantell Gwynedd Lluniau Gwynedd
Maint y testun A : A | Map o'r wefan | E-bostiwch ni | Sôn wrth ffrind | Marciwch ni

 

Cyfeirlyfr Iechyd

Mae Mantell Gwynedd yn cefnogi, datblygu a chynghori mudiadau gwirfoddol a chymunedol yng Ngwynedd

Gwaith MantellAdnoddau/Offer

Dyma restr o'r adnoddau ar gael
(Cliciwch ar yr adnoddau am fwy o wybodaeth) :-


Offer cyfieithu is-goch

Mae Cyflais 2 yn offer cyfieithu ar y pryd sy’n addas i’w defnyddio mewn cyfarfodydd priefat neu cyfarfodydd cyhoeddus. I’w gludo o gwmpas, mae’r offer yn cynnwys 4 cês a stand tripod i osod y sustem is-goch. Mae yn cynnwys 25 o glustffonau.

Os ydych wedi ymaelodi â Mantell Gwynedd cewch ei logi am bris gostyngol.

I logi’r offer cyfieithu is-goch, mae angen i chi gwblhau Ffurflen Llogi Offer.


Offer cyfieithu “sibrwd”

Mae offer cyfieithu ‘Cyflais’ yn offer cyfieithu ar y pryd sy’n addas i’w defnyddio mewn cyfarfodydd priefat neu gyfarfodydd cyhoeddus. Mae set ar gael yng Nghaernarfon sy’n cynnwys 1 cês gyda 30 o glusffonau ac  un set yn Nolgellau sy’n cynnwys 1 cês gyda 20 o glusffonau.

Os ydych wedi ymaelodi â Mantell Gwynedd cewch ei logi am bris gostyngol.

I logi’r offer cyfieithu sibrwd, mae angen i chi gwblhau Ffurflen Llogi Offer.


Sustem PA (MIPRO) MA–101 Wireless PA System

Mae Sustem PA yn system sy’n addas i’w defnyddio mewn cyfarfodydd, ar stondinau, ayyb. Mae yn sustem ysgafn i’w chario, yn gweithio heb wifren, ansawdd cryf a chlir.

Os ydych wedi ymaelodi â Mantell Gwynedd cewch ei logi am bris gostyngol.

I logi’r Sustem PA, mae angen i chi gwblhau Ffurflen Llogi Offer.


Byrddau Arddangos

Mae Byrddau Arddangos yn addas i roi ar fwrdd mewn unrhyw ddigwyddiad. Mae 1 ochr yn mesur 3ft 1.5 "x 2ft 1.5" ac mae 3 ochr iddynt.

Y gost o’u llogi yw £10 ond os yw eich grwp/mudiad yn aelod llawn o Mantell Gwynedd yna y gost yw £5, ac mae ar gael o swyddfa Gaernarfon.

I logi’r Byrddau Arddangos, mae angen i chi gwblhau Ffurflen Llogi Offer.


OHP

Mae Over Head Projector 3M (OHP) yn ysgafn i’w gario a gellir ei ddefnyddio mewn cyfarfodydd, hyfforddiant, ayb.

Y gost i’w llogi yw £20 ond os yw eich grwp/mudiad yn aelod llawn o Mantell Gwynedd yna y gost yw £10, ac mae ar gael o swyddfa Gaernarfon.

I logi’r OHP, mae angen i chi gwblhau Ffurflen Llogi Offer.


Sgrîn

Mae Sgrîn ar gael i’w defnyddio gyda offer fel Over Head Projector.

Y gost i’w llogi yw £10 ond os yw eich grwp/mudiad yn aelod llawn o Mantell Gwynedd yna y gost yw £5, ac mae ar gael o swyddfa Gaernarfon.

I’w llogi, mae angen i chi gwblhau Ffurflen Llogi Offer.


Flip Chart

Mae stand Flip Chart ar gael i’w defnyddio mewn cyfarfodydd, hyfforddiant, aybac mae 2 stand ar gael. Cewch ei llogi o swyddfa Gaernarfon a’r gost o‘u llogi yw £10 yr un ond os yw eich grwp/mudiad yn aelod llawn o Mantell Gwynedd yna y gost yw £5.

I’w llogi, mae angen i chi gwblhau Ffurflen Llogi Offer.


Llogi Ystafell

YSTAFELL GYFARFOD MANTELL GWYNEDD

Gan fod Mantell Gwynedd wedi newid adeilad, annogir chwi i ddod i weld yr ystafell gyntaf cyn i chwi ei llogi allan.

I ddatgan eich diddordeb, a fyddwch cystal â chwblhau Ffurflen Llogi Ystafell.


Llungopio

Cewch llungopio o swyddfeydd Dolgellau neu Gaernarfon. Y gost am lungopio A4 yw 7c y copi, neu os yw eich grwp/mudiad yn aelod llawn o Mantell Gwynedd, yna y gost yw 5c y copi.
Mae llungopiau A3 ar gael hefyd am 10c y copi neu 7c y copi os yw eich grwp/mudiad yn aelod llawn o Mantell Gwynedd.

I wneud cais am y gwasanaeth mae angen i chi gwblhau Ffurflen Ymholiad

TCC 210EPB Electric Punch Manual Bind


Beindio

- clawr crib

Mae Crib Clawr Ibimatic (Comb Binder) yn beindio tudalennau A4 gyda’i gilydd i wneud llyfryn wrth ddefnyddio cynnyrch Ibico e.e. Ibicombs.

Y gost i’w llogi yw £10 ond os yw eich grwp/mudiad yn aelod llawn o Mantell Gwynedd yna y gost yw £5, ac mae ar gael o swyddfa Gaernarfon.

Gellir defnyddio Crib Clawr Ibimatic yn ein swyddfa yn Gaernarfon. Y gost unigol yw 50c yr un i bob un llyfryn neu 25c yr un, os yw eich grwp/mudiad yn aelod llawn o Mantell Gwynedd.

I’w llogi, mae angen i chi gwblhau Ffurflen Llogi Offer.


Lamineiddio

Mae offer Lamineiddio Rexel yn gwella cyflwr dogfennau a lluniau i’w cadw (maint A4 neu lai).

I lamineiddio, y gost yw 50c y copi, ond os yw eich mudiad yn aelod llawn o Mantell Gwynedd, yna mae y pris yn 25c y copi. Mae’r gwasanaeth hwn ar gael o swyddfa Gaernarfon.

I wneud cais am y gwasanaeth mae angen i chi gwblhau Ffurflen Ymholiad


Gwasanaeth Cyflogau

Mae Mantell Gwynedd yn cynnig gwasanaeth paratoi cyflogau i fudiadau gwirfoddol.

Am ragor o fanylion cysyllter â Ceren Williams, Rheolydd Cyllid ar 01286 672626 ebost: ceren@mantellgwynedd.com

I wneud cais am y gwasanaeth mae angen i chi gwblhau Ffurflen Ymholiad

 
Logo yr Undeb Ewropiaidd Cronfa Amcan 1 24-26 Stryd Fawr, Caernarfon, LL55 1RH [t]01286 672626 [f]01286 678430 Yr Hen Orsedd, Y Lawnt, Dolgellau LL40 1SB [t]01341 422575 [f]01341 422147 Elusen Cofrestredig: 1068851 · Cwmni Trwy Warant: 3420271 · Cofresrwyd yng Nghymru