Ymaelodi
Aelodaeth Mantell Gwynedd
Mae aelodaeth Mantell Gwynedd yn agored i unrhyw fudiad gwirfoddol neu gymunedol. Mae’n aelodau yn rhan o’r broses o gynllunio gwasanaeth Mantell Gwynedd.
Drwy ymaelodi â Mantell Gwynedd byddwch yn cael:
- Gwybodaeth gyson a defnyddiol i’ch grŵp.
- Hyfforddiant defnyddiol am bris gostyngol.
- Cysylltiad â grwpiau o’r un maes.
- Papur chwarterol a chylchlythyrau.
- Benthyca offer am bris gostyngol.
- Cyfle i fod yn rhan o weithgareddau Mantell Gwynedd.
- Cymorth ymarferol.
Ffî ymaelodi blynyddol i bob grŵp / mudiad = £10.00
NODER:
Mae modd llenwi ffurflen aelodaeth Mantell Gwynedd isod neu gellir printio copi ohoni a'i danfon ymlaen i un o swyddfeydd Mantell Gwynedd gyda’r ffi. (Dylir gwneud sieciau yn daladwy i ‘Mantell Gwynedd’). I bawb sy’n dewis llenwi’r ffurflen ymaelodi ‘ar lein’, byddwn yn eich anfonebu maes o law am y ffi a nodir. Diolch
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni unai ar y ffôn neu drwy e-bostio ymholiadau@mantellgwynedd.com
Er mwyn ein galluogi i’ch cynorthwyo mewn modd effeithlon, byddwch cystal â darparu cymaint o wybodaeth â phosibl, ar y ffurflen isod.