Staff
Bethan Russell Williams - Prif Swyddog
Swyddfa - Caernarfon
Oriau Gwaith - Llawn Amser
Fe’i ganed a’i magwyd yn Llanbedrog, Llŷn. Mynychodd Brifysgol Cymru, Aberystwyth a graddiodd gydag anrhydedd (B.A.) yn Y Gymraeg ym 1987 ac yn Y Gyfraith gydag anrhydedd (LL.B) ym 1989. Ym 1989-90 mynychodd Coleg Y Gyfraith yng Nghaer cyn dilyn cyfnod o hyfforddiant fel cyfreithwraig gyda chwmni o gyfreithwyr o Bwllheli. Treuliodd gyfnod gyda’r BBC yng Nghaerdydd fel Gweithredwr Cytundebau a bu’n darlithio yn Y Gyfraith a Busnes o 1992 hyd 1996.
Ymunodd â’r sector gwirfoddol ym 1996 pan ddechreuodd swydd fel Tiwtor Drefnydd dros Wynedd i Gymdeithas Addysg Y Gweithwyr. Pan unodd Cymdeithas Addysg Y Gweithwyr a Coleg Harlech ym 2003 penodwyd Bethan yn Ddirprwy Gyfarwyddwr y sefydliad newydd.
Ym 2006, ar ôl cyfnod o ddeng mlynedd gyda Chymdeithas Addysg Y Gweithwyr penodwyd Bethan yn Brif Swyddog Mantell Gwynedd.
Aelod o Fwrdd Llywio Strategaeth Gymunedol Gwynedd (cyd-lynydd sector gwirfoddol)
Aelod o Fwrdd Llywio Partneriaeth Economaidd Gwynedd
Aelod o Fwrdd Swyddogion Cynllun Gofodol y Gogledd Orllewin
Aelod o Grwp Cyswllt Gwynedd
Aelod o Bartneriaeth Llwyddo’n Lleol
Cyfarwyddwr Oriel Plas Glyn Y Weddw, Llanbedrog
Ysgrifennydd Cwmni/Cyfarwyddwr a Phrif Swyddog Mantell Gwynedd.
Tîm Gwasanaethau
Carwyn James Humphreys – Hwylusydd Plant a Phobl Ifanc 
Swyddfa - Caernarfon
Oriau Gwaith - Llawn Amser
Ymunodd Carwyn Humphreys â Mantell Gwynedd fis Awst 2010 yn olynydd i’r swydd fel Hwylusydd Plant a Phobl Ifanc. Bydd y swydd yn parhau i gynnig cefnogaeth, bod yn lais i’r Trydydd Sector a hwyluso’r cyswllt rhwng y Sector a’r Bartneriaeth Plant a Phobl Ifanc Gwynedd. Yn ogystal, bydd Carwyn yn parhau i gefnogi a threfnu chyfarfodydd y Rhwydwaith Plant a Phobl Ifanc. Swyddogaeth eraill y swydd yw bod yn daprarwr gwybodaeth a hyfforddiant i fudiadau sydd yn gweithio yn y maes plant a phobl ifanc.
Graddiodd o Brifysgol Bangor yn 2008 gyda gradd gyd-anrhydedd mewn Ieithoedd Tramor Modern ac yn 2010 cwblhaodd gwrs Tystysgrif Addysg i Raddedigion fel athro uwchradd. Daw i’r swydd wedi nifer o brofiadau yn y maes plant a phobl ifanc megis fforymau ieuenctid lleol a chenedlaethol. Bu’n gynrychiolwr pobl ifanc Gwynedd ar y Ddraig Ffynci (Cynulliad i Blant a Phobl Ifanc Cymru) a chafodd y fraint o gynrychioli plant a phobl ifanc Cymru yn ystod penwythnos yr UKYP (United Kingdom Youth Parliament yn 2002. Mynychodd nifer o gyfarfodydd o’r Bartneriaeth Plant a Phobl Ifanc Gwynedd yn cynrychioli plant a phobl ifanc y sir, ac mae hefyd wedi bod yn gweithio i’r gwasanaeth ieuenctid Cyngor Gwynedd a phrosiect Clywed, hyn i gyd cyn ac yn ystod ei flynyddoedd cynnar yn y Brifysgol.
Mae Carwyn yn mwynhau cadw’n heini, gwrando a mynychu gŵyl cerddoriaeth a thrafeilio.
Carys Williams - Swyddog Y Porth Ymgysylltu
Swyddfa - Caernarfon
Oriau Gwaith - Rhan Amser - 4 diwrnod - dydd Mawrth i ddydd Gwener
Daeth Carys i weithio ym Mantell Gwynedd ym Mehefin 2003 fel Swyddog Cronfa Allweddol. Yn flaenorol bu’n gweithio fel Swyddog Gweinyddol Ewrop ar Brosiect Anableddau Gwynedd oedd yn brosiect partneriaeth ar y cyd rhwng Menter Fachwen, Antur Waunfawr ac Agoriad. Ers Hydref 2005, mae wedi gweithio fel Swyddog Cefnogi Cymunedau’n Gyntaf yn Arfon a Dwyfor.
Prif ddiddordebau Carys yw darllen a theithio, yn enwedig i Ffrainc! Mae’n weithgar gydag Urdd Gobaith Cymru yn lleol fel ysgrifennydd y Pwyllgor Rhanbarth, ac hefyd yn cynrychioli Eryri ar y byrddau canolog. Hi hefyd yw trysorydd y papur bro Lleu yn Nyffryn Nantlle ac yn is-gadeirydd y Gymdeithas Hanes leol.
Bellach mae Carys yn geith ar y cynllun Y Porth Gymgysylltu sydd yn cefnogi grwpiau y trydydd sector yng Ngwynedd i dendro am gontractau.
Delyth Vaughan - Swyddog Grantiau a Chefnogaeth
Swyddfa -
Caernarfon a Dolgellau
Oriau Gwaith - Llawn Amser
Ymunodd Delyth Vaughan â Mantell Gwynedd fis Ionawr 2006 wedi gweithio fel Swyddog Datblygu i Gwmni Tabernacl Bethesda ar gynllun cymunedol ‘Pesda Roc’. Mae swydd Delyth yn benodol yn delio â ymholiadau grantiau amrywiol gan grwpiau gwirfoddol a chymunedol, gweinyddu a rheoli cronfeydd grantiau megis Cronfa Galluogi Gwynedd, Cronfa Grant Cymorth Plant dan 11 oed a Chronfa Caergylchu yn ogystal â gwaith datblygu gyda grwpiau.
Graddiodd o Brifysgol Cymru Bangor yn 2003 gyda gradd gyd-anrhydedd yn y Gymraeg a Cherddoriaeth. Tra’n gweithio fel Swyddog Datblygu cafodd Delyth ei hethol ar Fwrdd Celfyddydau Gwirfoddol Cymru ac yn aelod o Grŵp Cyswllt y sector wirfoddol. Mae Delyth wedi cael ei hethol yn un o is-lywyddion Urdd Gobaith Cymru am y dair mlynedd nesaf.
Tîm Cyllid a Gweinyddol
Ceren Williams - Dirprwy Brif Swyddog a Phennaeth Tim Cyllid a Gweinyddu
Swyddfa – Caernarfon
Oriau Gwaith - Llawn Amser
Ymunodd Ceren â Mantell Gwynedd yn 2001 ar ôl gweithio am 9 mlynedd gyda Cyfle Cyf, elusen gofrestredig sydd yn cynnig hyfforddiant yn niwydiant ffilm a theledu yng Nghymru, drwy ddefnyddio arian Ewrop ac S4C. Cychwynnodd Ceren ei gyrfa yn yr 80au yn gofalu am gyllid y cynllun gwaith Antur Ieuenctid Gwynedd, oedd yn cael ei ariannu gan arian cyhoeddus.
Mae Ceren yn aelod o’r ‘Association of Accounting Technicians’, ac mae ganddi NVQ level 4 mewn Cyfrifon, a astudiwyd yn Ngholeg Llandrillo.
Mae ganddi dros 20 mlynedd o brofiad ym maes cyllid â mudiadau elusennol. Mae’n brofiadol yn gofalu am gyllid Ewrop, y Cynulliad ac arian cyhoeddus.
Bronwen Rowlands - Swyddog Gweinyddol
Swyddfa – Caernarfon
Oriau Gwaith - Llawn Amser
Cychwynnodd Bronwen ei gyrfa gyda Chyngor Gwlad Gwynedd yn 1977 pan ei phenodwyd fel Clerc/Teipydd i’w swyddfa yn Nolgellau, a buodd yn y swydd am saith mlynedd. Yna yn 1992 cafodd ei phenodi fel Swyddog Gweinyddol gyda’r Cyngor Gwlad, eto yn Nolgellau hyd Mawrth 1997. Yn ystod y cyfnod yma, cafodd Cyngor Gwlad Gwynedd ei ail enwi i Gwasanaethau Gwirfoddol Gwynedd. Ym mis Ebrill 1997 bu ad-drefnu Llywodraeth ac fe newidwyd yr enw eto i Mantell Gwynedd. Cynnigwyd y swydd Swyddog Gweinyddol llawn amser iddi yng Nghaernarfon.
Ellen ap Dafydd – Cynorthwy-ydd Gweinyddol
Swyddfa – Dolgellau
Oriau Gwaith - Rhan Amser - 3 diwrnod - Llun, Mercher a Gwener
Penodwyd Ellen yn Gynorthwy-ydd Gweinyddol yn Swyddfa Mantell Gwynedd Dolgellau ym mis Ebrill 2010.
Cyn hyn bu Ellen yn Gweithio i Gyngor Gwynedd yn dilyn cyfnod yn astudio cwrs NVQ Lefel 3 dwyieithog mewn Gweinyddiaeth Busnes yng Ngholeg Meirion-Dwyfor, Dolgellau. Penodwyd yng Nghymhorthydd Gweinyddol yn Swyddfa Y Lawnt, Dolgellau yn 2001.
Yn ystod yr 8 mlynedd gyda Chyngor Gwynedd mae wedi gweithio mewn amrywiaeth o swyddi sy’n cynnwys:
Cynllun Budd-dal Tai Trosiannol – Yn cyflwyno ceisiadau am arian Cefnogi Pobl ar ran unigolion i’w galluogi gyda chefnogaeth i fyw bywyd annibynnol.
Cynllun Lleoli Oedolion - Cynllun sydd yn recriwtio a chefnogi teuluoedd i gynnig gwasanaeth yn eu cartrefi ar gyfer oedolion bregus sydd angen cefnogaeth i fyw bywyd llawn yn y gymuned.
Cynllun Teleofal – Cynllun sydd yn darparu offer o fewn y cartref er mwyn galluogi’r preswylydd i alw am gymorth petai argyfwng/problem yn codi.
Mae Ellen yn enedigol o Drawsfynydd ag yn dilyn cyfnod ble bu’n byw mewn gwahanol ardaloedd mae nawr wedi ymgartrefu nôl ym mhentref ei genedigaeth.
Tracy Lynne Rotheram - Cynorthwy-ydd Gweinyddol
Swyddfa – Caernarfon
Oriau Gwaith - Rhan amser – Llun, Mawrth, Iau a Gwener
Ymunodd Tracy fel gweinyddwraig i’r Uned Defnyddwyr ym Mantell Gwynedd yn 2002 yn dilyn cwblhau cwrs Busnes a Gweinyddiaeth NVQ2 yng Ngholeg Menai, Caernarfon. Pan ddaeth y cynllun Uned Defnyddwyr i ben yn Mawrth 2006 symudodd Tracy ymlaen i weithio fel gweinyddwraig i’r Adran Grantiau a’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ogystal a rhannu ei hamser yn goruchwylio’r dderbynfa yma yn Mantell.
Mae Tracy yn mwynhau treulio ei hamser sbar yn garddio a darllen a pha ddau ddiddordeb sy’n cyfuno’n well na darllen yn yr ardd ar ddiwrnod braf!
Tîm Canolfan Gwirfoddolwyr
Rhianon Jones - Cydlynydd Gwirfoddoli
Swyddfa – Caernarfon
Oriau Gwaith - Rhan Amser – 25 awr yr wythnos - Llun, Mawrth, bore Mercher a dydd Iau
Mae Rhianon yn enedigol o Ddyffryn Conwy. Wedi graddio mewn Mathemateg ym Mhrifysgol Aberystwyth, cafodd swydd fel athrawes mewn ysgol uwchradd yn Arfon, a bu’n dysgu am gyfnod o 10 mlynedd. Wedi cyfnod adref yn magu teulu, bu’n gweithio â sawl mudiad gwirfoddol yn lleol. Ymunodd â thîm gwirfoddoli Mantell Gwynedd yn wreiddiol fel ‘Swyddog Maes’ yn Chwefror 2001, ac mae yn ei swydd bresennol ers Gorffennaf 2001. Fel rhan o’i gwaith mae’n rhoi gwybodaeth i bobl sydd â diddordeb mewn gwirfoddoli, yn cadw cyswllt gyda mudiadau sydd angen gwirfoddolwyr, ac yn hyrwyddo gwirfoddoli yn gyffredinol. Fel ‘Cydlynydd Gwirfoddoli’ mae’n gyfrifol am arwain tim Canolfan Gwirfoddoli Gwynedd.
Iola Till - Swyddog Gwirfoddoli
Swyddfa – Caernarfon
Oriau Gwaith - Rhan amser – 2 ddiwrnod - Mercher a Gwener
Mae Iola wedi gweithio yng Nghanolfan Gwirfoddoli Gwynedd ers 2001 ac yn y cyfnod yma wedi cyfarfod llu o bobl ddiddorol, i gyd a’u pryd ar wirfoddoli. Ei gwaith pennaf yw rhoi gwybodaeth i unigolion am y cyfleoedd gwirfoddoli sydd ar gael yng Ngwynedd a hybu gwirfoddoli yn gyffredinol gyda’r mudiadau a’r cyhoedd.
Bu Iola’n gwirfoddoli ei hun gydag amryw o gymdeithasau, ac nawr mae yn gynrychiolydd ar Gyngor Cymuned Beddgelert ac yn aelod o Gwmni Gwynant Cyf. Ffurfiwyd Cwmni Gwynant i brynu Capel Bethania, Nantgwynant yn 2001 pan gaewyd y Capel fel lle addoli. Mae’r Capel wedi ei adnewyddu fel caffi a thrigolion yr ardal ac ymwelwyr yn elwa o’r adnodd. Galwch heibio am baned a chacen!
Ann Angharad Fleming - Swyddog Gwirfoddoli
Swyddfa – Dolgellau
Oriau Gwaith - Rhan amser – 3 diwrnod, Llun, Mawrth, Mercher
Ymunodd Ann â thîm Canolfan Gwirfoddoli Gwynedd yn Ionawr 2003. Mae’n gyfrifol am hyrwyddo gwirfoddoli’n gyffredinol gyda chyfrifoldeb penodol am Feirionnydd.
Mae Ann yn darparu gwybodaeth am gyfleoedd gwirfoddoli i’r cyhoedd, recriwtio gwirfoddolwyr a’u lleoli gyda mudiadau addas. Mae Ann ar gael hefyd i ymweld â mudiadau i roi sgwrs am ei gwaith.
Daw o gefndir nyrsio a ddatblygodd i fyd hybu iechyd, ac yn
1990 mentrodd i fyd busnes yn ei thref enedigol sef Tywyn gan agor tŷ bwyta o’r enw Bwyta’n Iach. O ganlyniad i hyn mae’n parhau hyd heddiw i hybu iechyd yn wirfoddol trwy rannu o’i phrofiad i helpu eraill ac yn falch or cyfle bob amser.
Mirain Roberts - Swyddog Gwirfoddoli ymysg Ieuenctid
Swyddfa – Caernarfon
Oriau Gwaith – Llawn Amser
Ymunodd Mirain â’r staff ym Mantell Gwynedd ddiwedd Ebrill 2007. Ei rôl yw hyrwyddo gwirfoddoli ymysg ieuenctid a rhoi gwybodaeth iddynt am y cyfleoedd gwirfoddoli sydd ar gael yng Ngwynedd. Mae’n barod i gynorthwyo gydag unrhyw ymholiad am wirfoddoli ond yn canolbwyntio yn bennaf ar wirfoddoli ymysg pobl ifanc, maes sydd yn brysu ddatblygu.
Mae Mirain ar gael hefyd y tu allan i oriau swyddfa i ymweld â mudiadau/grwpiau o bobli ifanc i roi sgwrs am ei gwaith.
Un o brif ddiddordebau Mirain yw canu yn ei chôr lleol, Lleisiau’r Mignedd. Mae hefyd yn ymrwymo i weithio â phobl ifanc yn ei hamser sbâr ac yn rhoi llawer o’i hamser yn datblygu cynlluniau cymunedol ar eu cyfer. Yn ogystal â hyn mae’n gwirfoddoli fel ysgrifenyddes i brosiect Cwmni Ifanc Tŷ’r Ysgol yng Nghaernarfon.
Cyn ymuno â Mantell, bu’n gweithio i Bartnaeriaeth Plant a Phobl Ifanc yng Nghyngor Gwynedd. Am gyfnod hefyd fe fuodd yn gwneud gwaith gyda’r nos fel gweithwraig fforwm yn adral Arfon gyda Adran Gwasanaeth Ieuenctid y Cyngor.
Tîm Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Sioned Llwyd Larsen - Hwylusydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Swyddfa – Caernarfon
Oriau Gwaith - Llawn Amser
Penodwyd Sioned i’w swydd ym Medi 2004 o dan y Cynllun Codi Pontydd Cadarn , cynllun a gefnogwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.
Mae wedi gweithio mewn amryw o feysydd dros y blynyddoedd yn y sector gwirfoddol yn ogystal â’r sector statudol. Roedd ei gwaith yn cynnwys dysgu a hyfforddi oedolion mewn coleg addysg bellach, rheolwr datblygu partneriaethau, gwaith ymchwil a datblygu ynghyd â nifer o feysydd eraill.
Yn enedigol o’r Parc ger y Bala mae ganddi adnabyddiaeth dda o Wynedd a’i anghenion. Mae ganddi ddiddordeb byw yn y maes y mae’n gweithio ynddo ac wedi gweld budd personol o newid ei ffordd o fyw a gwneud mwy o ymarfer corff
John Medwyn Williams – Cydlynydd y Trydydd Sector
Swyddfa – Caernarfon/Dolgellau
Oriau Gwaith - Llawn Amser
Ymunodd Medwyn â Mantell ym Medi 2009 fel Cydlynydd
Trydydd Sector.
Yn enedigol o Ddyffryn Ogwen mae gan Medwyn brofiad o weithio o fewn y maes Iechyd yn yr hen ysbyty Môn ac Arfon ac yn ddiweddarach yn Ysbyty Gwynedd, Bangor. Bu’n gydlynydd Dysgu Gydol Oes i Gyngor Gwynedd ac yn Swyddog Cymunedol i Goleg Menai.
Mae ganddo hefyd brofiad helaeth o weithio gyda mudiadau gwirfoddol a chymunedol.
Llinos Alun – Cydlynydd Gwirfoddolwyr Iechyd
Swyddfa – Dolgellau
Oriau Gwaith - Rhan Amser
Ymunodd Llinos â Mantell ddiwedd Tachwedd 2009 fel Cydlynydd Gwirfoddolwyr Iechyd. Un o ardal Stiniog ydyw, ac mae ganddi dipyn o brofiad o weithio gyda gwirfoddolwyr ar wahanol brosiectau. Bu’n gweithio gyda Deudraeth Cyf ar wefannau cymunedol ac yna am gyfnod gyda Chymorth i Ferched De Gwynedd fel cydlynydd gwirfoddoli. Yn fwy diweddar, bu’n gweithio i Gymdeithas Tai Hafan fel Swyddog Cyswllt Ysgolion, yn ymweld ac ysgolion uwchradd i gyflwyno’r prosiect Spectrwm. Mae hi’n edrych ymlaen at ddatblygu’r Cynllun Gwarchodwyr Iechyd Gwirfoddol yn y Gymuned a chael cyfarfod y gwirfoddolwyr newydd ynghyd â’r rhai fydd yn cael eu cyfeillio.
Pwy ydi Pwy | Staff gyda lluniau | Llwyddiannau | Swyddi